Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i ddechrau ar gae 3G yr Olchfa

Gallai gwaith ddechrau mewn ychydig wythnosau ar gae 3G pob tywydd maint llawn newydd yn Ysgol yr Olchfa.

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Yn ei gyfarfod nesaf, gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo pecyn ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn trawsnewid cyfleusterau chwaraeon i ddisgyblion a'r gymuned ehangach.

Nododd y cyngor a llywodraethwyr yr ysgol barsel o dir nad oedd ei angen a chytunwyd y byddai'n cael ei werthu ar yr amod y gosodir cae 3G newydd.

Cwblhawyd gwerthiant y tir yn gynharach eleni ac mae contractwr wedi tendro'n llwyddiannus i adeiladu'r cae ynghyd â gwneud gwelliannau eraill.

Yn ogystal â'r cae pob tywydd newydd, bydd yr ysgol yn parhau i gael caeau pêl-droed a rygbi glaswellt.

Dywedodd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu y byddai'r prosiect £1.6m yn yr Olchfa yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau chwaraeon yn Abertawe.

Meddai, "Bydd y cae 3G yn sicrhau y gall timau chwaraeon yr ysgol chwarae a hyfforddi drwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd yn darparu ased gwych i'r gymuned ehangach pan na fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mai 2023