Cae 3G yn newid pethau'n sylweddol ar gyfer ysgol a chymuned
Mae cae 3G newydd yn Ysgol yr Olchfa eisoes yn newid pethau'n sylweddol i ddisgyblion a'r gymuned ehangach.
Gwnaeth Cyngor Abertawe a llywodraethwyr yr ysgol nodi darn o dir nad oedd ei angen mwyach ac fe'i gwerthwyd i helpu i ariannu'r buddsoddiad gwerth £1.6 miliwn, gydag arian hefyd yn cael ei roi gan Raglen Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru.
Meddai Pennaeth yr Olchfa, Julian Kennedy, "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu gwneud newid mor sylweddol i'r cyfleusterau y gallwn eu cynnig i'n pobl ifanc.
"Yn ogystal â thrawsnewid y ffordd y gallwn ddarparu gwersi yn ystod y diwrnod ysgol ac ar gyfer timau, mae ein cymuned leol hefyd yn elwa'n fawr o'r cau 3G."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart a oedd wedi agor y cae yn swyddogol yr wythnos hon, ei fod yn fuddsoddiad pwysig arall yng nghyfleusterau chwaraeon ysgolion a chymunedol yn Abertawe.
Ychwanegodd, "Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi helpu i ddarparu caeau pob tywydd yn ysgolion uwchradd Penyrheol, Treforys, Pentrehafod, Pontarddulais a Dylan Thomas, ac mae ysgubor chwaraeon dan do newydd bellach yn cael ei defnyddio yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, ac rydym wedi cefnogi'r cae pob tywydd newydd a'r cyfleusterau chwaraeon gwell ym Mharc Underhill yn y Mwmbwls."