Cae chwaraeon gwerth £1.6m yr ysgol bron yn barod i'w ddefnyddio
Mae'r cyffyrddiadau olaf yn cael eu gwneud i gae 3G pob tywydd maint llawn yn Ysgol yr Olchfa a fydd yn trawsnewid cyfleusterau chwaraeon i ddisgyblion a'r gymuned ehangach.
Nododd Cyngor Abertawe a llywodraethwyr yr ysgol ddarn o dir nad oedd ei angen a chytunwyd y byddai'n cael ei werthu i helpu i dalu am y buddsoddiad £1.6m newydd.
Cyflogwyd y contractwyr Carrick Sports i greu'r cae a gwneud gwelliannau eraill ac maent bron â gorffen y gwaith.
Yn ogystal â'r cae pob tywydd newydd, bydd yr ysgol yn parhau i gael caeau pêl-droed a rygbi glaswellt.
Dywedodd Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu fod y prosiect yn yr Olchfa yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau chwaraeon ysgol yn Abertawe.