Lleoliad Men's Shed bellach yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned
Mae lleoliad Men's Shed sydd hefyd yn croesawu menywod wedi dod yn ganolbwynt yng Nghlydach ar ôl iddo elwa o gyllid gan Gyngor Abertawe.
Yn ogystal â darparu lle croesawgar i bobl fwynhau paned a sgwrs, mae The Old Blacksmiths yn cynnal gweithgareddau a hefyd ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd sydd wedi cynnwys hwylio ar y gamlas gyfagos, tripiau bysus i'r Mwmbwls a Dinbych-y-pysgod a hyd yn oed cyfle i roi cynnig ar ddringo creigiau dan do.
Unwaith eto, mae Cyngor Abertawe'n cefnogi Men's Sheds ar draws y ddinas drwy sicrhau bod £25,000 ar gael i gefnogi siediau presennol a datblygiad rhai newydd.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cyllid eleni gyda dyddiad cau o ddydd Gwener 1 Medi.
Syniad Belinda Gardiner oedd dechrau'r prosiect yn The Old Blacksmiths ar ôl siarad â'i merch sy'n byw yn Awstralia, a chlywed am lwyddiant Men's Sheds yno.
Meddai, "Rydym wedi bod yn gweithredu ers pedair blynedd nawr ac yn croesawu 40 i 45 person ar gyfartaledd i bob sesiwn ar fore dydd Mercher a bore dydd Gwener."
Ymwelodd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, â'r sied y mis hwn.
Meddai, "Mae'r gwaith maent yn ei wneud a'r effaith gadarnhaol mae wedi'i chael ar bobl a all fel arall deimlo ychydig yn unig neu'n ynysig, yn hollol wych."
I wneud cais ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cymorthAriannolMensSheds
E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.