Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Disgwyliad i ymlediad Omicron achosi mwy o aflonyddwch i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Efallai y bydd prinder staff difrifol ar draws pob sector yn arwain at rai newidiadau dros dro yn y ffordd y darperir gwasanaethau ar draws ein hardal.

Swansea Council Logo (landscape)

Mae'r datganiad ar y cyd canlynol wedi'i ddrafftio a'i gymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Abertawe, partneriaid y trydydd sector a chynrychiolwyr dinasyddion a gofalwyr:

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe'n wynebu pwysau cynyddol wrth i bryderon dyfu ynghylch prinder staff.

Wrth i gyfraddau haint COVID-19 barhau i gynyddu yn ein rhanbarth, unwaith eto rydym yn wynebu sefyllfa lle mae'n rhaid i ni 'ymateb i argyfwng'. Gyda lefel trosglwyddiad Omicron yn llawer uwch na'r amrywiolyn Delta, mae niferoedd mawr o weithwyr ar draws pob sector yn gorfod hunanynysu naill ai oherwydd eu bod wedi dal y feirws neu oherwydd eu bod wedi'u nodi fel cyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif.

Rydym wedi dysgu llawer o uchafbwyntiau blaenorol COVID-19, ac mae'r gwaith paratoi a chynllunio sylweddol rydym wedi'i wneud yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosib i reoli'r her ddiweddaraf hon yn llwyddiannus.

Wrth i ni ymdrechu i reoli'r argyfwng gweithlu cynyddol hwn, rydym yn cynghori preswylwyr sy'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y gall fod ychydig o darfu tymor byr dros yr wythnosau nesaf. Ar hyn o bryd rydym yn paratoi ar gyfer uchafbwynt y don Omicron, a ddisgwylir yn hwyr ym mis Ionawr - byddem yn ddiolchgar iawn petaech yn dangos yr un faint o amynedd a dealltwriaeth ag yr ydych wedi'i dangos drwy gydol y pandemig hwn.

Er bod pob sector yn teimlo'r pwysau presennol, mae'r gwasanaethau sy'n cefnogi aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned fel nyrsys ardal, gofal cartref, gwasanaethau dydd a chartrefi gofal preswyl dan bwysau aruthrol, ac archwilir i bob opsiwn ar gyfer darparu rhagor o staff.

Mae cydweithwyr ar draws pob sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth agos i fonitro'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yn newid fesul awr. Mae cartrefi gofal yn gweithredu gyda llai o staff ac er bod nifer y preswylwyr sy'n sâl iawn yn isel, diolch i lwyddiant y rhaglen frechu, mae'r sefyllfa'n dod yn fwy heriol wrth i brinder staff barhau i waethygu.  

Diolch am fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Hoffem eich sicrhau ein bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe i adeiladu cadernid er mwyn diogelu'n preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn ystod yr amser allweddol hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am y gefnogaeth rydych chi neu anwylyn yn ei derbyn, mae croeso i chi gysylltu â'ch darparwr gwasanaeth.