Toglo gwelededd dewislen symudol

Ras i gyflawni'r Safon Un Blaned

Mae Cyngor Abertawe yn ceisio bod y cyngor cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad am y gwaith y mae'n ei wneud i leihau ei ôl troed ecolegol cyffredinol.

The Earth

The Earth

Yn ogystal â datgarboneiddio, mae hyn yn cynnwys adeiladau, teithio, defnydd tir a gwastraff yn ogystal â bioamrywiaeth a'r effaith ar adnoddau naturiol.

Ochr yn ochr â chynghorau eraill, y nod yw cael ei asesu ar gyfer Safon Un Blaned newydd a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn helpu sefydliadau i greu map ffordd tuag at fod yn garbon sero-net gyda'r targedau a'r metrigau angenrheidiol i'w cadw ar y trywydd iawn.

Disgwylir i Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau Cyngor Abertawe, siarad yn COP26 heddiw.

Bydd hi'n ymddangos ar banel o arbenigwyr, ochr yn ochr â'r canlynol: Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol; Jaco Marais o Good Governance Institute; Paul Briddle, Prif Swyddog Gweithredol Assessment Services; Seb Wood, Rheolwr gyfarwyddwr Whitby Wood; a David Thorpe a Virginia Isaac o'r Ganolfan Un Blaned.

Caiff y sesiwn ei darlledu o Glasgow a gellir ei gwylio ar sianel YouTube COP26 yn - https://youtu.be/eSDnAnpaGHs Gallwch gyflwyno cwestiynau yn https://app.sli.do/event/at8rkshh

Meddai'r Cynghorydd Lewis, "Mae'n bwysig bod gennym safonau mesuradwy a chorff annibynnol sy'n sicrhau nad oes unrhyw fylchau o ran yr hyn y dylem fod yn canolbwyntio arno. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyngor sero-net erbyn 2030. Rydym yn gobeithio y bydd Abertawe'n sero-net erbyn 2050."

Meddai datblygwr y safon a sylfaenydd-gyfarwyddwr cwmni buddiannau cymunedol Canolfan Un Blaned, David Thorpe, ""Mae Safon Un Blaned yn helpu sefydliadau o bob math i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth drwy addasu effeithiau eu gweithgareddau. Bydd yn cynorthwyo sefydliadau i ddefnyddio adroddiadau integredig i fesur y cynnydd y maent yn ei wneud tuag at gyflawni nodau cynaladwyedd y Cenhedloedd Unedig."

Cefnogir Safon Un Blaned gan lawer o amgylcheddwyr  pennaf Cymru. Gallwch lawrlwytho'r safon am ddim. Rhagor o wybodaeth: https://oneplanetstandard.org/.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022