Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau bellach ar agor ar gyfer pecyn ariannu gwerth £16.2m

Mae sefydliadau yn Abertawe'n cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid o hyd at £16.2 miliwn.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae'r cyllid, sy'n cael ei gynnal yn lleol gan Gyngor Abertawe, yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid galwad agored ehangach cyffredinol gwerth £8m, mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cynlluniau arfaethedig yn cyd-fynd â themâu allweddol y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys  gwella cymunedau trefol a gwledig, a chefnogi busnesau bach.

Yn ogystal â'r alwad agored gyffredinol, mae ceisiadau ar agor yn awr ar gyfer prosiectau sy'n ffurfio rhan o elfennau Sgiliau a Lluosi'r pecyn ariannu cyffredinol.

Mae'r cyllid gwerth £3m sy'n ymwneud â sgiliau yn arian ar gyfer prosiectau sy'n bwriadu cyflwyno hyfforddiant hanfodol, technegol a galwedigaethol wedi'i dargedu ynghyd â chefnogaeth ar gyfer ailhyfforddi a gwella sgiliau i oedolion 19+ oed yn unol â'r angen sgiliau lleol a blaenoriaethau economaidd rhanbarthol.

Y gofyniad craidd ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â'r thema Lluosi, gwerth £5.2m, yw cyflwyno cefnogaeth sgiliau rhifedd hyblyg i oedolion 19+ oed nad oes ganddynt gymhwyster Lefel 2 neu uwch mewn mathemateg.

Ni all ceisiadau am gyllid ddyblygu'r prosiectau angori canlynol y mae'r cyngor eisoes wedi'u cyhoeddi fel rhan o becyn ariannu cyffredinol, sy'n werth £38.4m i'r ddinas.

  • Pecyn o gynlluniau i gefnogi busnesau Abertawe gan gynnwys grantiau dechrau busnes, grantiau twf, grantiau lleihau carbon, hyfforddiant i fusnesau symud tuag at ddod yn garbon sero net, a chronfa datblygu eiddo masnachol
  • Prosiect cyflogadwyedd llwybrau at waith a fydd yn cynnwys cymorth i bobl 16 oed ac yn hŷn sy'n anweithgar yn economaidd ac sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir, lleoliadau gwaith â thâl a galwad agored am gyllid grant gwerth £2m er mwyn darparu cymorth cyflogadwyedd arbenigol
  • Trawsnewid lleoedd ar draws y sir, gyda phrosiectau wedi'u clustnodi i gynnwys cyllid grant ar gyfer adeileddau hanesyddol, gwelliannau i bentrefi a chanol trefi bach, a gweithgareddau a llwybrau adfywio a arweinir gan dreftadaeth
  • Prosiect angori diwylliant a thwristiaeth a fydd yn cynnwys datblygu rhwydwaith creadigol, sgiliau digidol a chymorth i fusnesau yn y sector hwnnw
  • Prosiect cefnogi cymunedau a fydd yn darparu cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol a phrosiectau'r trydydd sector
  • Rhoi hwb i ardaloedd gwledig drwy ddarparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau ar thema newid yn yr hinsawdd a chymorth i fusnesau gwledig

Rhaid i bob cais gael ei dderbyn erbyn ganol nos, nos Fercher, 22 Mawrth 2023.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma gyfle i sefydliadau yn Abertawe wneud cais am gyllid gwerth hyd at £16.2m a allai helpu i gyflwyno prosiect sy'n gysylltiedig â themâu allweddol y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru.

"Mae dros £22m o becyn ariannol y ddinas eisoes wedi cael ei glustnodi ar gyfer nifer o brosiectau angori, gan gynnwys cyfres o gynlluniau grant pwrpasol ar gyfer busnesau a sefydliadau llai, felly mae'n bwysig nad yw unrhyw geisiadau sy'n rhan o'r alwad agored gael eu cyflwyno ganddynt hwy.

"Er bod y cyllid hwn yn sylweddol is o'i gymharu â chronfeydd blaenorol yr UE, rydym yn gweithio i ddatblygu ac annog prosiectau a fydd o fudd i bobl a chymunedau ym mhob rhan o Abertawe."

Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Bydd y cyllid hwn a fydd yn canolbwyntio'n rhannol ar hybu hyfforddiant, ailhyfforddiant a gwella sgiliau, yn helpu i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl leol i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth neu i ddod o hyd i gyflogaeth â thâl gwell.

"Mae hyn yn bwysig oherwydd mae cymaint o fuddsoddiad yn digwydd yn Abertawe sy'n creu miloedd o swyddi ar gyfer ein preswylwyr."

Ewch i abertawe.gov.uk/gffg i gael rhagor o arweiniad, gwybodaeth gefndir, meini prawf ymgeisio a ffurflenni. Gall sefydliadau sy'n chwilio am ragor o wybodaeth a chymorth e-bostio  SPF@abertawe.gov.uk hefyd.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023