Y Cyngor yn ceisio cadw rygbi o'r radd uchaf yn Abertawe
Hoffai Cyngor Abertawe i faes chwarae San Helen y ddinas ddod yn gartref newydd i ranbarth rygbi o radd uchaf Y Gweilch.
Mae'r Gweilch yn chwilio am gartref newydd, ar ôl dweud nad ydynt bellach yn bwriadu chwarae yn stadiwm Swansea.com ar ôl tymor 2024-25.
Byddai cynnig ar gyfer model gweithredu newydd yn San Helen - a gynhelir ar hyn o bryd gan y Cyngor - yn arwain at ei ailddatblygu fel lleoliad ar gyfer chwaraeon cymunedol a rhanbarthol.
Byddai'r Cyngor am i unrhyw gynllun cymeradwy gynnwys adleoli Clwb Criced (CC) Abertawe yn llwyddiannus mewn ffordd a gytunir gan y clwb ac eraill.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae angen uwchraddio San Helen i gynnig profiad chwaraeon modern, ac mae angen cartref newydd ar y Gweilch a chynllun ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir.
"Rydym yn barod i weithio ar gynnig presennol y Gweilch er mwyn i San Helen i ddod yn stadiwm rygbi modern, gan helpu'r rhanbarth i ymgartrefu yno ac aros yn Abertawe.
"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r Gweilch i aros yn Abertawe, wrth weithio hefyd gyda'n holl randdeiliaid chwaraeon i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar eu cyfer.
"Rydym wedi trafod yr opsiwn gyda'r Gweilch. Rydym eisoes yn trafod materion allweddol mewn modd cadarnhaol gyda phreswylwyr presennol San Helen, CC Abertawe a Chlwb Rygbi Abertawe.
"Mae trafodaethau cyfredol i alluogi'r newidiadau posib yn cynnwys goblygiadau, amserlenni a chyllid i ddatblygu gwell cyfleusterau criced gerllaw."
Byddai cynnig San Helen yn cynnwys cytundebau gyda'r Gweilch i ddarparu ar gyfer defnyddiau eraill. Nid yw tir y Rec sydd gyfagos yn rhan o'r cynnig presennol.
Byddai San Helen yn dod yn stadiwm rygbi i ystod o ddefnyddwyr a fyddai'n cynnwys cartref i rygbi rhanbarthol a chyfleusterau ar gyfer chwaraeon cymunedol. Byddai'n cael ei ddatblygu fesul cam dros nifer o flynyddoedd, gan gynyddu nifer y lleoedd yno, datblygu cyfleusterau a gwella profiad defnyddwyr ac ymwelwyr.
Byddai'r cynnig yn caniatáu i Glwb Rygbi Abertawe a Phrifysgol Abertawe ddefnyddio'r cae ar gyfer rygbi, fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Byddai'r maes chwarae ar gael i'w ddefnyddio gan grwpiau cymunedol ac ysgolion hefyd.
Byddai timau criced yn cael cynnig cyfleusterau gwell gerllaw, gyda manylion ac amserau i'w cytuno gan randdeiliaid allweddol.
Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r cynnig i Gabinet y Cyngor gan Aelod y Cyngor dros Fuddsoddiad, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, Robert Francis Davies ar 16 Mai.
Meddai, "Rydym am weithio gyda'r Gweilch i wella San Helen fel cyfleuster chwaraeon allweddol i fod o fudd i rygbi rhanbarthol o'r radd flaenaf ac fel lleoliad chwaraeon cymunedol ar gyfer y ddinas.
"Mae Abertawe'n ddinas chwaraeon ac rydym am gael Abertawe actif ac iach gydag economi leol ac isadeiledd ffyniannus. Byddai'r cynllun yn helpu hynny.
"Y cynnig yw datblygu a gwella San Helen fel cyfleuster chwaraeon dros y blynyddoedd sy'n dod drwy bartneriaeth tymor hir â'r Gweilch.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau bod chwaraeon yn Abertawe'n cael eu darparu i'r gymuned, i fyfyrwyr ac i'r elît."
Mae gan San Helen hanes cyfoethog ac mae'r gweithgareddau sy'n digwydd yno ar hyn o bryd yn cynnwys gemau cartref Clwb Rygbi Abertawe a CC Abertawe.
Heb fwy o fuddsoddiad yn y dyfodol, byddai angen i'r Cyngor ystyried trefniadau eraill.
Meddai'rCyng. Francis-Davies, "Diben cynnig San Helen - a fyddai'n golygu bod angen i ni weithio o fewn cyllidebau'r Cyngor ar yr adeg hon o her ariannol fawr - yw sicrhau buddsoddiad ac ailfywiogi'r lleoliad, gan gadw rygbi rhanbarthol o'r radd flaenaf yn agos i ganol y ddinas.
"Rydym yn siarad â CC Abertawe ynghylch eu helpu i adleoli i gyfleuster amgen
"Rydym yn awyddus i weithio i amserlen a gytunwyd gan randdeiliaid ac yn unol â'r cynigion."