Y cyngor yn bwriadu estyn cymorth pandemig i'r diwydiant lletygarwch
Disgwylir y bydd Cyngor Abertawe'n rhoi hwb arall i gaffis, tafarndai a bwytai'r ddinas wrth i'r pandemig barhau.
Heddiw (sylwer: 20 Ionawr), cytunodd y cyngor i barhau i ddarparu trwyddedau ar gyfer ardaloedd bwyta awyr agored am ddim tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf (sylwer: 2023).
Bydd y penderfyniad, sy'n dilyn atal ffïoedd ar gyfer trwyddedau caffi palmant dros dro ers haf 2020, yn helpu busnesau wrth iddynt weithredu yn ôl cyfyngiadau'r pandemig. Bydd yn parhau i ddenu bywyd a bywiogrwydd ychwanegol i strydoedd y ddinas ac ardaloedd eraill.
Bydd y penderfyniad, a fyddai'n arbed tua £50,000 y flwyddyn i fusnesau, yn rhan o gronfa adfer ehangach y cyngor gwerth miliynau o bunnoedd, i helpu busnesau a chymunedau adfer o'r pandemig.
Meddai cyd-ddirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor, David Hopkins, "Drwy gael gwared ar rai o'r costau yn 2022 a'r flwyddyn nesaf gallwn arbed miloedd ar filoedd o bunnoedd i fusnesau."
Rhaid i bob busnes sy'n dymuno creu ardal eistedd awyr agored ar y briffordd - a'r rheini sydd am barhau i ddefnyddio'u hardaloedd eistedd presennol - wneud cais am drwydded yn www.abertawe.gov.uk/caffipalmant