Toglo gwelededd dewislen symudol

Atyniadau awyr agored yn ailagor ar gyfer y Pasg yn barod ar gyfer tymor 2024

​​​​​​​Mae nifer o atyniadau awyr agored poblogaidd wedi ailagor yn Abertawe, gan addo tymor newydd o hwyl i'r teulu cyfan.

Singleton Swan Pedalo

Singleton Swan Pedalo

Mae'r atyniadau sy'n cael eu cynnal gan Gyngor Abertawe a agorodd ddydd Sadwrn yn cynnwys Trên Bach Bae Abertawe, golff gwallgof ym Mharc Singleton a Gerddi Southend y Mwmbwls, a'r pedalos yn llyn cychod Singleton.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Gyda'r dyddiau hwy a'r tywydd cynhesach, mae ein hatyniadau'n barod am dymor gwych arall.

"Maent yn cynnwys rhai ychwanegiadau newydd gwych i'r llyn cychod ar ffurf dau bedalo siâp ungorn."

Gall y rheini sy'n chwilio am ychydig o awyr iach a hwyl fynd ar daith ar Drên Bach Bae Abertawe yn un o'i bump arhosfan.

Bydd yn rhedeg o Blackpill i Ystumllwynarth bob penwythnos rhwng 10.30am a 4.30pm a phob dydd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd y golff gwallgof yng Ngerddi Southend ac yn Singleton ar agor bob penwythnos a phob dydd yn ystod gwyliau'r ysgol y tymor hwn. 

Prynwyd y pedalos siâp ungorn newydd ar gyfer y llyn cychod drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Disgwylir i Gastell Ystumllwynarth agor yr wythnos hon (27 Mawrth), a bydd Lido Blackpill yn agor ar 4 Mai.

Rhagor: www.abertawe.gov.uk/parciau

Close Dewis iaith