Toglo gwelededd dewislen symudol

Ychydig ddyddiau'n unig sydd tan y sioeau theatr awyr agored!

Bydd theatr awyr agored yn dychwelyd i Abertawe'r wythnos nesaf - gyda straeon gan ddau o enwogion llenyddol.

Outdoor Theatre, Mumbles

Outdoor Theatre, Mumbles

Disgwylir i gomedi Shakespeare, Twelfth Night gael ei pherfformio yn nhiroedd Castell Ystumllwynarth ddydd Mercher, 9 Awst.

Bydd The Tale of Peter Rabbit and Benjamin Bunny, a addaswyd o straeon gan Beatrix Potter, yn cael ei pherfformio yn yr un lleoliad drannoeth.

Trefnir y ddau berfformiad gan Gyngor Abertawe. Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn edrych ymlaen at weld theatr awyr agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth, gyda'r rheini sy'n mynd yno'n cael y cyfle i wneud yn fawr o fwytai, bariau, siopau a pharlyrau hufen iâ rhagorol niferus y Mwmbwls."

Cyflwynir Twelfth Night gan Immersion Theatre sy'n llwyfannu sioeau ar draws y DU.

Cyflwynir The Tale of Peter Rabbit and Benjamin Bunny gan Quantum Theatre, cwmni arall sydd wedi cael canmoliaeth o gwmpas y wlad.

Meddai Serena Pearceo noddwr y digwyddiad, holidaycottages.co.uk, "Mae'r tîm yn ein swyddfa yn y Mwmbwls yn edrych ymlaen at weld llwyddiant y digwyddiadau a gynhelir yr haf hwn.

Gall mynychwyr theatr awyr agored ddefnyddio busnesau lleol neu bacio picnic ar gyfer y sioeau.

Tocynnau: croesobaeabertawe.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Awst 2023