Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaeth Ffydd Islamaidd ac Arweinwyr Cymunedol Abertawe (PFflAC)

Cylch gorchwyl.

Diben y PFflAC

Darparu partneriaeth addysg strategol effeithiol sy'n cynnwys uwch-gynrychiolwyr o'r cymunedau ffydd Islamaidd yn Abertawe i drafod goblygiadau'r Côd ac Arweiniad Cydberthynas a Rhywioldeb ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y prif ffocws yw cefnogi'r amcan lles:

Gwella Addysg a Sgiliau

Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc fynychu'r ysgol yn rheolaidd, cael ei gynnwys, bod yn wydn a chael dyfodol llwyddiannus.  Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau bod dysgu, iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi.

Bydd y bartneriaeth yn ystyried y blaenoriaethau canlynol:

  • hyrwyddo Abertawe fel awdurdod lleol sy'n ymroddedig i gynwysoldeb a chydweithio.
  • gwella canlyniadau i'n holl ddysgwyr.
  • egluro'r prosesau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm, addysgeg a chynnydd ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
  • cryfhau gweithio mewn partneriaeth (rhwng ysgolion a'u cymunedau unigryw) i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o safon i ddysgwyr o bob ffydd, cred a diwylliant.
  • darparu'r cyngor gorau (gan gynnwys cyfathrebu ag arweinwyr crefyddol) ac arweiniad i unigolion ac ysgolion i ddatblygu cwricwlwm pwrpasol ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb lle mae'r holl ddysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
  • hyrwyddo parch at ei gilydd a chydweithio.
  • ymgysylltu'n agored ac yn onest wrth i ni geisio rhoi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar waith fel thema drawsbynciol ym mhob ysgol yn Abertawe.

Aelodaeth 2023

Cyfarwyddwr Addysg (Helen Morgan-Rees neu ddirprwy o'r Awdurdod Lleol)
Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, Cyngor Abertawe (Y Cyng. Robert Smith)
Arweinydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yr ALl (Jennifer Harding-Richards)
Cynrychiolydd o Fosg Dinas Abertawe (Farid Ali/Souiful Alam)
Cynrychiolydd o Fosg y Brifysgol (Dr Saad Al-Ismail)
Cynrychiolydd o Fosg Kholi (Imam Mustafa Ali)
Cynrychiolydd o Fosg Sgeti (Riaz Hassan)
Cynrychiolydd o'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (Shehla Khan)
Cynrychiolydd Grŵp Gwleidyddol / Diwylliannol Lleol ar ran BAME (Parvaiz Ali)
Cynrychiolydd o'r Llywodraethwyr Ysgol (Mahaboob Basha)
Ysgrifennydd (Natalie Gedrych)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ionawr 2024