Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaid yn mabwysiadu cynllun i wella lles yn y ddinas

Mae preswylwyr wedi bod yn helpu i lunio dyfodol Abertawe drwy gyfrannu at gynllun newydd sy'n anelu at wneud y ddinas yn lle gwell fyth i fyw a gweithio ynddo.

sand dunes swansea bay

Mae eu barn, eu syniadau a'u gobeithion wedi helpu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i ddatblygu ei Gynllun Lles Lleol sydd newydd ei fabwysiadu, sy'n nodi sut y gall darparwyr gwasanaethau gydweithio i wella lles.

Mae gan y bwrdd bedwar aelod statudol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Abertawe - ond mae hefyd yn cynnwys sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn lles yr ardal fel Heddlu De Cymru a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, cadeirydd y bwrdd, y byddai'r partneriaid nawr yn cydweithio i roi'r cynllun ar waith er budd yr holl breswylwyr.

Ychwanegodd, "Mae lles yn ymwneud â gwneud Abertawe'n lleoliad sy'n ffyniannus, lle gwerthfawrogir a chynhelir ein hamgylchedd naturiol a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iachus, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gall fod.

"Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn Abertawe fel y gwasanaeth iechyd, y cyngor, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd fel y gall teuluoedd a chymunedau greu cyfleoedd a gwneud y gorau ohonynt.

"Gofynnom i ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth, arbenigwyr, staff, rheolwyr, plant ac arweinwyr am eu cyngor a'u cefnogaeth er mwyn helpu i roi'r cynllun at ei gilydd. Cryfhaodd eu hymatebion y cynllun a bu'n help wrth sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

"Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.

"Rydym yn edrych ymlaen at gael pawb i weithio gyda'i gilydd er mwyn dod â'r cynllun hwn yn fyw er lles pawb."

https://www.abertawe.gov.uk/cynllunlleslleol

Close Dewis iaith