Toglo gwelededd dewislen symudol

Canol y ddinas ar fin dod yn gyrchfan mwy croesawgar fyth

Bydd rheolau ymddygiad gwrthgymdeithasol newydd yn helpu canol dinas Abertawe i ddod yn lle mwy croesawgar i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef o 1 Rhagfyr.

The Kingsway

The Kingsway

Bydd pobl sy'n agored i niwed oherwydd amgylchiadau fel digartrefedd yn cael eu trin mewn modd sensitif; bydd gwasanaethau tai ac allgymorth yn cymryd rhan.

Mae'r GDMAC - sy'n rhan o ymagwedd ehangach a chydlynol Abertawe i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd - wedi'i gynllunio i roi hwb i ganol y ddinas sydd eisoes yn cael ei wella.

Mae rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn yn cyflwyno datblygiadau trawiadol fel Arena Abertawe, Wind Street fel cyrchfan drwy'r dydd a Ffordd y Brenin wyrddach a mwy deniadol.

Mae'r GDMAC - a gafodd gefnogaeth gyhoeddus eang mewn ymgynghoriad diweddar - yn golygu y gellir mynd ag alcohol a chyffuriau oddi ar bobl sy'n eu defnyddio ar y strydoedd cyn i'r sefyllfa ddod yn broblem. Gellir cyflwyno hysbysiadau o gosb benodol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi ac ymosodedd. Gellid cymryd camau eraill hefyd i ymdrin â chodwyr twrw parhaus.

Bydd 1 Rhagfyr yn nodi dechrau treial GDMAC tri mis mewn ardaloedd sy'n cael eu patrolio ar hyn o bryd gan geidwaid canol y ddinas, ynghyd â'r Marina a pharc arfordirol Bae Copr pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf. Os bydd yn llwyddiannus, gellid cyflwyno GDMACau mewn ardaloedd fel SA1, Traeth Abertawe a chanol Treforys.

Mae GDMACau ar wahân yn cael eu datblygu ar gyfer dau leoliad arall sydd â hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol - lôn oddi ar St Helen's Road a thwnnel sy'n cysylltu'r Strand â'r Stryd Fawr.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae pobl wedi cael llond bol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol ac eisiau i rywbeth gael ei wneud yn ei gylch - bydd y cynllun GDMAC yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem. Ni ddylai pobl deimlo'n ofnus neu dan fygythiad gan ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Bydd ein pwerau newydd - gan weithio gyda'r rheini y mae gan yr heddlu eisoes - yn helpu preswylwyr, busnesau, siopwyr, gweithwyr ac ymwelwyr i fwynhau canol y ddinas sy'n gwella'n gyflym.

"Mae GDMACau eisoes ar waith mewn trefi a dinasoedd eraill."

Bob blwyddyn, gwneir cannoedd o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol i geidwaid canol dinas Abertawe. Mae cofnodion yr heddlu'n dangos ei fod yn broblem allweddol sy'n effeithio ar ganol y ddinas.

Nawr, am y tri mis o Ragfyr 1, bydd ceidwaid canol y ddinas yn esbonio i bobl sut y bydd y GDMAC yn gweithio a sut - drwy beidio â bod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol - y gallant gydymffurfio.

Bydd ceidwaid yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu a gwasanaethau allgymorth fel bod camau gweithredu wedi'u teilwra i'r unigolyn. Gallai hyn olygu cymorth ychwanegol i'r unigolyn.

Bydd cyflwyno dirwyon yn dechrau ar ôl y treial yn unig - ac ar ôl trafodaethau â'r unigolion dan sylw. Gorfodi yw'r dewis olaf.

Meddai Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau malltod ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

"Mae cefnogaeth gref i GDMACau gan yr heddlu a busnesau. Er y gwnaed llawer o waith eisoes i fynd i'r afael â'r problemau hyn, mae angen gwneud rhagor.

"Mae ymdrechion tîm diogelwch cymunedol y cyngor i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i elwa o waith rhagorol gyda phartneriaid - ac rwy'n falch y bydd ein GDMAC yn cael ei weithredu yn y fath fodd fel y bydd y bobl fwyaf diamddiffyn yn parhau i gael eu trin â pharch a chefnogaeth gan ein staff sy'n cael eu hyfforddi mor dda."

Meddai Andrea Lewis, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bodoli yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd y DU. Gobeithiwn y bydd ein GDMACau yn helpu i'w leihau yn Abertawe wrth i ni barhau i drin pobl ddiamddiffyn gyda sensitifrwydd.

"Nid yw GDMACau wedi'u hanelu at y digartref neu bobl sy'n cysgu allan; sef pobl â phroblemau cymhleth gan amlaf, sy'n haeddu cael ein cefnogaeth i'w helpu i reoli eu bywydau.

"Rydym wedi rhoi dulliau ar waith gyda'r gwasanaethau allgymorth gwych sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ddiamddiffyn.

"Mae'r cyngor yn cefnogi'r digartref gyda gofal meddygol a chymdeithasol yn ogystal â dod o hyd i le iddynt fyw."

Meddai Prif Weithredwr BID, Russell Greenslade, "Bydd y mesurau newydd hyn yn cael eu croesawu gan fusnesau ein hardal BID sydd i gyd yn gweithio mor galed i helpu canol y ddinas i wneud cynnydd a ffynnu ar ôl cyfnod heriol iawn.

"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem sy'n cael ei godi gan fusnesau, defnyddwyr ac ymwelwyr yn eithaf aml ac mae'n bwysig bod pawb sydd â diddordeb personol yn nyfodol canol y ddinas yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i wella pethau. 

"Wrth gwrs, mae materion cymhleth wrth wraidd ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae angen ymdrin â hwy'n ofalus ac yn sensitif ac rwy'n gwybod y bydd yr holl asiantaethau syn cymryd rhan yn cyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd sensitif a phroffesiynol."
Rhagor o wybodaeth: Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin a map ardal GDMAC - www.abertawe.gov.uk/GDMACau

 

Cefndir i GDMAC cyntaf Abertawe

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gydnabod fel her i ganol dinas Abertawe - fel y mae gyda threfi a dinasoedd eraill.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael ag ef, lluniodd Cyngor Abertawe gynlluniau ar gyfer Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau) mewn rhannau o'r ddinas. Tua blwyddyn yn ôl, dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos gefnogaeth eang i'r cynllun.  

Ers hynny mae swyddogion y cyngor wedi ystyried adborth y cyhoedd, staff hyfforddedig ac wedi cysylltu â Heddlu De Cymru a grwpiau arbenigol fel Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd (MARAC). Maent wedi datblygu gweithdrefnau a ystyriwyd yn ofalus sy'n dryloyw, yn deg ac yn diwallu anghenion unigolion diamddiffyn.

Mae GDMACau eisoes wedi'u cyflwyno gan gynghorau eraill y DU. Mae Abertawe wedi dysgu o brofiadau GDMACau mewn lleoliadau eraill fel Casnewydd a Sir Fynwy.

Bydd GDMAC cyntaf canol dinas Abertawe yn dechrau ar 1 Rhagfyr. Bydd ei dri mis cyntaf yn gyfnod prawf, heb unrhyw gamau gorfodi - cyfle i'r cyhoedd ddysgu popeth am y cynllun fydd hwn.

Bydd yn caniatáu i geidwaid canol y ddinas gyflwyno rhybuddion ffurfiol ac - yn ddiweddarach - hysbysiadau o gosb benodol i fynd i'r afael ag ymddygiad negyddol y mae pobl yn ei ystyried yn ymosodol neu'n frawychus.

Gallai hyn gynnwys ymgarthu neu droethi ar y stryd, yfed gwrthgymdeithasol i ffwrdd o fangreoedd trwyddedig neu ddefnyddio sylweddau a reolir gan gynnwys cyffuriau penfeddwol cyfreithiol.

Bydd y GDMAC hefyd yn galluogi'r ceidwaid i fynd i'r afael â chardotwyr "proffesiynol", y mae'n hysbys eu bod yn targedu'r ardal i gael arian gan y cyhoedd trwy dwyll.

Llun: Wind Street ar ei newydd wedd - enghraifft o sut mae canol Abertawe'n cael ei gwella gan raglen adfywio Cyngor Abertawe.

 

 

 

 

Close Dewis iaith