Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect proffil uchel y Palace eisoes yn darparu buddion i gymunedau lleol.

Mae ceiswyr gwaith, disgyblion ysgol a chymunedau lleol ymhlith y rheini sy'n elwa o gynllun sy'n gysylltiedig â gwaith Cyngor Abertawe i roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol yng nghanol y ddinas.

Palace Social Value Activity

Palace Social Value Activity

Mae'r prif gontractwr, R&M Williams, yn cyflawni rhaglen buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol Theatr y Palace ar ran y Cyngor.

Cyflogwyd tua 10 person hyd yn hyn drwy'r fenter, mae disgyblion ysgol wedi dysgu am y prosiect adeilad treftadaeth proffil uchel drwy ymweliadau safle a chefnogwyd nifer o fentrau cymunedol gan yr ymgyrch buddion a gwerth cymunedol.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Alyson Anthony, "Rwy'n falch iawn bod cynifer wedi elwa o'r cynllun hwn - a oruchwylir gan y tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter - sy'n gysylltiedig â phrosiect gwych y Palace.

"Mae'r tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn gweithio'n galed i sicrhau buddion cymunedol drwy holl weithgareddau addas y Cyngor, er mwyn creu buddion sy'n para ar gyfer y gymuned.

"Drwy gyflwyno cymalau budd cymunedol fel recriwtio a hyfforddiant a dargedir yn ein contractau, rydym yn sicrhau bod aelodau o'n cymuned, yn enwedig pobl ifanc a'r rheini nad ydynt wedi bod yn y farchnad waith ers peth amser, yn derbyn cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ystyrlon."

Meddai Freya Church, rheolwr gwerth cymdeithasol R&M Williams, "Mae gan bobl leol ddiddordeb ym mhrosiect y Palace oherwydd ei fod yn safle prysur ac oherwydd ei natur hanesyddol. Mae elusennau a phreswylwyr wedi elwa o'n presenoldeb."

Mae swyddi'r Palace a grëwyd gan y cynllun buddion cymunedol yn cynnwys gwaith labro, gweinyddwr safle a sgaffaldiwr.

Mae'r sefydliadau addysg sy'n cymryd rhan yn y cynllun wedi cynnwys Ysgol Crug Glas, Ysgol Gymunedol Dylan Thomas a Phrifysgol Abertawe.

Mae'r mentrau cymunedol y rhoddwyd hwb iddynt wedi cynnwys Matthew's House, Cyfeillion Theatr y Palace a'r Fenter Effaith Gymunedol.

Mae eraill sydd wedi elwa yn cynnwys Ysgol Pentrehafod, Ysgol Bae Baglan ym Mhort Talbot, Carchar Abertawe, Hwb Cyn-filwyr Abertawe ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Ariennir prosiect adfywio'r Palace gan y Cyngor a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.  

Close Dewis iaith