Toglo gwelededd dewislen symudol

Craen aruchel yn dangos cynnydd yn y Palace

Mae craen tal newydd bellach yn ychwanegu at ddinaswedd Abertawe, gan ddangos y cynnydd sy'n cael ei wneud i drawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palace.

Palace Crane

Palace Crane

 

Mae'r tirnod dros dro newydd yn rhan o waith gan y contractwr o dde Cymru, R&M Williams Ltd ar ran Cyngor Abertawe.

 

Mae'r adeilad rhestredig gradd 2 sy'n 134 oed yn cael ei drawsnewid yn ofalus yn gartref i fusnesau technoleg, cychwynnol a chreadigol.

 

Cafodd yr adeiledd chwe llawr siâp trionglog ei gaffael gan y cyngor oddi wrth berchnogion preifat tua dwy flynedd yn ôl; roedd mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o gael ei golli.

 

Dechreuodd gwaith ar y safle yn yr hydref a gallai'r adeilad ailagor y flwyddyn nesaf. Mae'r prosiect yn cael ei gynorthwyo gydag arian o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r cyngor wedi penodi Tramshed Tech fel y prif denant a fydd yn rhedeg yr adeilad.

 

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld craen aruchel arall yn rhan o nenlinell Abertawe - mae'n dangos bod adfywio yn y ddinas yn datblygu'n dda, gan wneud Abertawe'n ardal y mae busnesau, teuluoedd ac unigolion am ddod iddi."

 

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rwy'n falch iawn bod gwaith ar y prosiect nodedig hwn yn datblygu'n dda."

 

Fel theatr, llwyfannwyd perfformiadau gydag enwogion fel Charlie Chaplin a Syr Anthony Hopkins yn y Palace

 

Fodd bynnag, dan berchnogaeth breifat, rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio; daeth yn adfeiliedig.

 

Mae bellach yn cael ei drawsnewid yn ofalus.

 

Mae gwaith cynnar a wneir gyda help y craen yn cynnwys gosod to dros dro.

 

Bydd hyn yn galluogi'r gwaith o gael gwared ar y to adfeiliedig presennol a gosod to newydd maes o law.

 

Bydd y to dros dro yn amddiffyn yr adeilad unwaith y ceir gwared ar y to presennol.

 

Llun:Craen dros adeilad Theatr y Palace.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Ionawr 2022