Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith o amgylch adeilad y Palace ar gyfer ffigyrau allweddol y cyngor

Mae uwch-ffigyrau o Gyngor Abertawe wedi bod ar daith o amgylch prosiect Theatr y Palace yng nghanol y ddinas.

Rob Stewart & Martin Nicholls at the Palace

Rob Stewart & Martin Nicholls at the Palace

Gwahoddwyd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, a'r Prif Weithredwr, Martin Nicholls, i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth i'r cyngor roi bywyd newydd i'r adeilad eiconig 136 oed.

Disgwylir i'r adeilad ailagor eleni fel canolfan newydd i fusnesau a bydd yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith adfywio barhaus gwerth £1bn y cyngor ar gyfer y ddinas.

Mae'r gwaith diweddaraf sydd wedi'i wneud yn Theatr y Palace wedi cynnwys:

  • Paratoi'r prif do er mwyn gosod y llechi
  • Cynnydd ar y pedwerydd llawr newydd
  • Gosod lloriau pren

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n wych gweld bod prosiect Theatr y Palace ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau. Rwy'n edrych ymlaen at weld pobl leol yn rhedeg ac yn gweithio mewn busnesau yn adeilad y Palace.

"Mae'n un o lawer o ddatblygiadau cyffrous yng nghanol y ddinas y bydd cynnydd mawr arno eleni, gan gynnwys gwaith tuag at greu gerddi Sgwâr y Castell sy'n wyrddach ac yn fwy croesawgar, a datblygiadau ar ein hwb gwasanaethau cyhoeddus, Y Storfa."

Adeiladwyd Theatr y Palace ym 1888 ac fe'i prynwyd gan y cyngor ychydig cyn pandemig COVID-19.

Yn ystod ei gyfnod dan berchnogaeth breifat aeth yn adfeiliedig; roedd ei dyfodol dan fygythiad.

Mae disgwyl i'r gwaith ailwampio dramatig, sensitif arwain at ailagor yr adeilad eleni, diolch i gyllid gan y cyngor a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae busnesau arbenigol sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r prosiect yn cynnwys R&M Williams Ltd a GWP Architecture.

Tramshed Tech yw'r busnes o Gymru sydd i fod i reoli'r adeilad unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.

Gall busnesau gofrestru eu diddordeb mewn cadw lle er mwyn gweithio yn adeilad y Palace.

Llun: Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart a'r Prif Weithredwr, Martin Nicholls yn adeilad y Palace.

 

 

Close Dewis iaith