Toglo gwelededd dewislen symudol

Contractwr profiadol o Gymru i drawsnewid adeilad Theatr y Palace

Mae Cyngor Abertawe wedi penodi contractwr profiadol o dde Cymru i drawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palace yng nghanol y ddinas.

Palace Contractor

Palace Contractor

Mae gan R&M Williams Ltd enw da am weithio gydag adeiladau treftadaeth, gan gynnwys prosiectau adnewyddu gwerth £4m ym Mhafiliwn Pier Penarth, adeilad rhestredig Gradd Dau, ac Empire House, tirnod eiconig o'r 1920au yng Nghaerdydd.

Nhw fydd y prif gontractwr bellach yn Theatr y Palace, adeilad 133 oed siâp trionglog, ac adeilad rhestredig gradd dau y bu sêr fel Charlie Chaplin a Syr Anthony Hopkins yn perfformio yno yn y gorffennol.

Daeth yr adeilad chwe llawr ar y Stryd Fawr i feddiant y cyngor ar ôl i berchnogion preifat ei brynu tua 20 mis yn ôl.

Bydd yr adeilad adfeiliedig sydd wedi mynd â'i ben iddo ar ôl blynyddoedd o ddiffyg defnydd yn cael ei drawsnewid mewn modd sensitif i fod yn gartref i fusnesau technoleg, newydd a chreadigol. Mae caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig wedi'u rhoi.

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref a gallai'r adeilad ailagor yn 2023. Mae'r cyngor wedi penodi Tramshed Tech fel prif denant i redeg yr adeilad.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Hoffwn groesawu R&M Williams Ltd i'r prosiect gwych hwn a fydd yn rhoi bywyd newydd i un o adeiladau mwyaf eiconig Abertawe."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rwy'n falch iawn bod cwmni adeiladu o safon o Gymru'n rhan o'r prosiect pwysig hwn."

Meddai Darryn Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr R&M Williams Ltd, "Mae R&M yn falch iawn o gael eu penodi fel y prif gontractwr ar gyfer adnewyddu adeilad hanesyddol Theatr y Palace."

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, "Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi rydym yn darparu £136m i gefnogi ymhellach adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a'n dinasoedd ledled Cymru. Mae ein polisi Canol Trefi yn Gyntaf sydd wedi'i wreiddio yng nghynllun datblygu cenedlaethol Dyfodol Cymru yn golygu y dylai canol trefi a dinasoedd fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer unrhyw benderfyniadau a wneir o ran lleoliad mannau gwaith a gwasanaethau."

Dewiswyd y prif gontractwr yn ystod proses dendro gystadleuol.

Llun: Aelod y Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, chwith, yn Theatr y Palace gyda Darryn Parry, o R&M Williams Ltd.

 

Close Dewis iaith