Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Palace yn datblygu wrth i waith ailwampio fynd rhagddo

Mae golwg newydd, beiddgar yn dod yn amlwg wrth i waith trawsnewid barhau ar un o adeiladau mwyaf hanesyddol Abertawe.

Palace Theatre: New interior image with council cabinet members

Palace Theatre: New interior image with council cabinet members

Mae cromlinellau llifol ymysg y llinellau a welir wrth i arbenigwyr adeiladu baratoi adeilad Theatr y Palace ar gyfer ei fywyd newydd.

Disgwylir i'r gweddnewidiad dramatig ond sensitif hwn arwain at ei ailagor, fel canolfan i fusnesau newydd, y flwyddyn nesaf.

Adeiladwyd yr adeiledd ym 1888 ac yn ystod ei hanes hir, gweddnewidiwyd y tu mewn iddo ar sawl achlysur gan arwain at gynllun tebyg i gwningar.

Cynyddwyd yr heriau i'r rheini sy'n achub yr adeilad gan gyflwr adfeiliedig yr adeilad ar ôl bron dau ddegawd o fod yn ddiddefnydd.

Mae Cyngor Abertawe'n cynllunio dyfodol mawr i'r adeilad chwe llawr a fu dan berchnogaeth breifat, ar ôl ei brynu ychydig cyn pandemig COVID-19.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld pethau'n dod ynghyd yn y Palace.

"Roedd e' mewn cyflwr ofnadwy ar ôl iddo fod dan berchnogaeth breifat, a gallai Abertawe fod wedi'i golli.

"Rydym wedi'i achub ac yn ei drawsnewid gyda chymorth partneriaid arbenigol fel GWP Architecture a'r prif gontractwr R&M Williams Ltd."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y safle'n arbenigol ac yn gymhleth - ac rydym nawr ar gamau cynnar gweld yr hyn sydd i ddod."

 

Dechreuodd gwaith ar y safle yn 2021. Cynorthwyir y prosiect gyda chyllid o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith ar y safle hyd yn hyn wedi cynnwys gosod hytrawstiau dur i gynnal agweddau allweddol ar yr adeilad yn y dyfodol, creu gwagle a gosod fframwaith dur a fydd yn cynnwys lifft, a thynnu'r to adfeiliedig a'i adfer yn barod ar gyfer gosod to llechi newydd.

Meddai Richard Townend,o GWP Architecture, "Mae'r tîm dylunio'n parhau i weithio'n agos â'r tîm adeiladu ac arbenigwyr, ochr yn ochr â'r cyngor, wrth i'r gwaith gwych i adnewyddu a gweddnewid yr adeilad unigryw hwn, a chreu rôl newydd iddo yng nghanol Abertawe, ddod at ei derfyn.

Meddai Simon Reed o R&M Williams, "Wrth gerdded o gwmpas y safle bob dydd gallaf weld golwg a naws terfynol yr adeilad yn datblygu. Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o gadw lle mor wych er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei brofi a'i fwynhau."

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, "Mae adeilad Theatr y Palace yn enghraifft wych o sut, drwy waith caled a chyllid, y gallwn roi bywyd newydd i adeilad diddefnydd a chreu arwynebedd llawr masnachol modern, o ansawdd uchel mawr ei angen yng nghanol y ddinas.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd Dau yn cael ei drawsnewid yn gartref ar gyfer busnesau technoleg, busnesau newydd a chreadigol, a Tramshed Tec fydd yn prydlesu'r adeilad fel y prif denant.

Llun: Aelodau Cabinet Cyngor Abertawe wrth adeilad Theatr y Palace.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Awst 2023