Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorchuddion yn dechrau cael eu tynnu oddi ar adeilad Theatr y Palace

Mae'r gorchuddion yn dechrau cael eu tynnu oddi ar adeilad hanesyddol yn Abertawe sy'n cael ei arbed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Palace Door

Palace Door

Mae adeilad Theatr y Palace sy'n 138 o flynyddoedd oed wedi cael ei lapio mewn gorchuddion amddiffynnol am fwy na dwy flynedd wrth i'r cyngor barhau i adfer yr adeiledd mewn modd sensitif.

Mae drws mynediad adferedig bellach yn weladwy ac mae cipolygon o waith cerrig a adnewyddwyd yn arbenigol i'w gweld drwy'r sgaffaldiau tal a fydd yn cael eu datgymalu yn yr wythnosau sy'n dod.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, " Mae'r olwg newydd hon o'r Palace wrth iddo ddechrau dod i'r golwg wedi i rai o'r gorchuddion gael eu tynnu'n ddiweddar yn un i'w chroesawu.

"Mae'r prosiect ar y trywydd iawn i'w gwblhau eleni. Rwy'n edrych ymlaen at weld pobl leol yn rhedeg busnesau a fydd ymgartrefu yn y Palace ac yn gweithio yno."

Bydd y Palace ar ei newydd wedd yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith gwerth £1bn a drefnwyd gan y cyngor i adfywio'r ddinas.

Mae lluniau diweddar gan gwmni GWP Architecture y prosiect yn dangos to llechi newydd y Palace, gwaith cerrig adnewyddedig a'r tu mewn lle mae cryn dipyn o siâp gwreiddiol yr hen theatr wedi'i gadw.

Roedd adeilad y Palace a oedd dan berchnogaeth breifat, wedi dadfeilio ac roedd ei ddyfodol dan fygythiad nes i'r cyngor ei brynu.

Mae'r gwaith atgyweirio wedi digwydd yn sgîl cyllid gan y cyngor a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae R&M Williams Ltd. ymysg y busnesau sy'n rhan o'r gwaith adnewyddu. Disgwylir i Tramshed Tech, busnes o Gymru, reoli'r adeilad wedi iddo gael ei adeiladu.

Gall busnesau gofrestru eu diddordeb mewn archebu lleoedd gwaith yn y Palace

Llun: Adeilad Theatr y Palace. Llun: GWP Architecture

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mawrth 2024