Toglo gwelededd dewislen symudol

Cinderella yn Theatr y Grand Abertawe yn rhagori ar ddisgwyliadau

Gwerthwyd mwy o docynnau ar gyfer prif bantomeim Abertawe eleni nag yn yr un cyfnod y Nadolig diwethaf.

Cinderella, 2023-24

Cinderella, 2023-24

Roedd mwy na 37,000 o bobl wedi mwynhau Cinderella yn Theatr y Grand Abertawe, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Abertawe.

Roedd Cinderella yn cynnwys Samantha Thomas fel y prif gymeriad, AJ a Curtis Pritchard, Matt Edwards, Kev Johns a Stefan Pejic. Fe'i cynhaliwyd yn y Grand o 9 Rhagfyr i 7 Ionawr.

Roedd yn elfen ganolog o'r Nadolig yn Abertawe, a oedd hefyd yn cynnwys Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a Gorymdaith a Marchnad y Nadolig a oedd wedi helpu dinasyddion ac ymwelwyr i fwynhau canol y ddinas drwy gydol tymor yr ŵyl.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Roedd ymateb y gynulleidfa i Cinderella yn anhygoel; roedd cannoedd o sylwadau cadarnhaol iawn ar gyfryngau cymdeithasol ac roedd llawer o aelodau'r gynulleidfa'n cynnwys y rheini sy'n dod i wylio'r panto'n rheolaidd."

Meddai Rheolwr y Grand, Grant McFarlane, "Rydym yn falch iawn gyda'r cynnydd yn nifer yr aelodau o'r gynulleidfa. Roedd pawb a ddaeth i weld Cinderella wedi mwynhau'n fawr."

Y panto ar gyfer 2024-25 fydd Jack and the Beanstalk, gyda'r deuawd gomedi Kev Johns a Matt Edwards yn dychwelyd.

Mae tocynnau ar werth nawr.