Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn mwynhau Gorymdaith y Nadolig Abertawe

Daeth miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr i fwynhau Gorymdaith y Nadolig flynyddol Abertawe nos Sul, 21 Tachwedd

Xmas Parade 2021

Xmas Parade 2021

Roeddent wedi mwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnwyd gan Gyngor Abertawe a oedd yn cynnwys cymysgedd lliwgar o grwpiau cymunedol, diddanwyr proffesiynol gwych, bandiau'n gorymdeithio, cerbydau sioe hudol, cymeriadau ffilmiau lliwgar a chymeriadau chwyddadwy Nadoligaidd.

Roedd Siôn Corn yno hefyd i gynnau goleuadau Nadolig canol y ddinas sydd wedi'u gwella a'u hehangu.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Dechreuodd holl hwyl yr ŵyl yn Abertawe nos Sul! "Roedd gorymdaith eleni, digwyddiad am ddim arall a ddarparwyd gan Gyngor Abertawe, yn olygfa a oedd yn werth ei gweld."

Cynhaliwyd yr orymdaith ddiwethaf yn 2019, ac roedd y cyhoedd wedi'i chanmol yn fawr.Gyda chyfyngiadau'r pandemig yn cael eu llacio'n araf bach, roedd trefnwyr yr orymdaith yn y cyngor wedi cynllunio digwyddiad neithiwr yn ofalus iawn.

Cynhaliwyd yr orymdaith yn unol â chanllawiau presennol i sicrhau bod pobl mor ddiogel â phosib a gofynnodd y cyngor i bobl wasgaru gymaint â phosib ar hyd y llwybr a chadw draw os nad oeddent yn teimlo'n dda.

Bydd atyniadau Nadoligaidd eraill sydd ar ddod yn helpu i sicrhau Nadolig a hanner yn Abertawe eleni.

Rhagor o wybodaeth: www.nadoligabertawe.com

Llun: Gorymdaith y Nadolig Abertawe 2021.