Gorymdaith y Nadolig - yr hyn y mae angen i chi ei wybod i gynllunio ymlaen llaw a joio'r digwyddiad
Anogir y rheini sy'n edrych ymlaen at fynd i Orymdaith y Nadolig Abertawe nos Sul i gynllunio ymlaen llaw.
Disgwylir i filoedd ddod i fwynhau digwyddiad am ddim Cyngor Abertawe.
Bydd yn cynnwys cymysgedd lliwgar o grwpiau cymunedol lleol, dawnswyr, bandiau, corau, fflotiau, cymeriadau chwyddadwy, cymeriadau wedi'u goleuo, tywysogesau ac archarwyr - a bydd y cyfan yn ymuno â Siôn Corn i gynnau goleuadau Nadolig canol y ddinas.
Mae'r cyngor yn annog y rheini sy'n bwriadu dod i'r digwyddiad i wirio'r trefniadau ymlaen llaw gan y bydd rhai ffyrdd ar gau er mwyn caniatáu i'r orymdaith ddechrau am 5pm.
Bydd yr orymdaith yn dechrau o Victoria Road a disgwylir iddi orffen am oddeutu 6.30pm ar ddiwedd Ffordd y Brenin.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Er mwyn sicrhau gorymdaith ddiogel, mae angen cau rhai ffyrdd. Rydym yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw a chyrraedd yn gynnar."
Mae llwybr yr orymdaith fel a ganlyn: Victoria Road, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, Y Stryd Fawr, Orchard Street, Ffordd y Brenin.
Bydd y ffyrdd a fydd ar gau yn cynnwys East Burrows Road a Somerset Place rhwng oddeutu 2pm ac 8pm a Bellevue Way o oddeutu hanner dydd tan 9pm.
Bydd rhaglen dreigl cau ffyrdd o oddeutu 4pm tan 8pm ar nifer o ffyrdd. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Bydd parcio ar gael ym meysydd parcio canol y ddinas. Bydd dau faes parcio Parcio a Theithio yn gweithredu - un yn Fabian Way a'r llall yng Nglandŵr.Bydd y bysus yn gadael bob 15 munud rhwng 2pm a 5.15pm o'r ddau safle Parcio a Theithio. Yn dilyn yn orymdaith, bydd y bysus yn rhedeg yn barhaus tan 8pm.Bydd bysus ychwanegol yn rhedeg i'r meysydd parcio Parcio a Theithio. Dylai modurwyr nodi y bydd y safleoedd parcio a theithio yn cael eu cloi dros nos.
Drwy gydol yr orymdaith bydd synau uchel, goleuadau sy'n fflachio ac effeithiau arbennig. I'r rheini y mae angen rhywle ychydig yn dawelach arnynt er mwyn mwynhau'r orymdaith, bydd ardaloedd tawel ar gael ar ran isaf Ffordd y Brenin (pen St Helen's Road) a phen y Stryd Fawr ac Orchard Street.
Os oes gennych bryderon ynghylch synau a goleuadau'r orymdaith a hoffech drafod y rhain ymhellach, ffoniwch y cyngor ar 01792 635428.
Bydd man gwylio hygyrch ar Princess Way ac Orchard Street. Bydd toiledau hygyrch a nifer cyfyngedig o seddi ar gael.
Bydd bandiau arddwrn diogelwch ar gael. Gall rhieni a gwarcheidwaid eu casglu ar y noson o nifer o ffynonellau, gan gynnwys yr LC, The Pump House, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, bysus Parcio a Theithio First Cymru a stiwardiaid y digwyddiad. Bydd manylion pellach ar gael yn agosach at y digwyddiad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol JoioBaeAbertawe.
Meddai Stephen Williams, Cyfarwyddwr Gwerthiannau noddwr y bandiau arddwrn, Consumer Energy Solutions, "Fel cwmni o Abertawe, ein ffocws yw cadw'r gymuned leol yn gynnes ac yn ddiogel y gaeaf hwn.
"Mae'n bleser gennym noddi'r bandiau arddwrn diogelwch ar gyfer Gorymdaith y Nadolig eleni ac rwy'n siŵr y bydd yn ddigwyddiad gwych i nodi dechrau tymor yr ŵyl."
Gwybodaeth lawn - www.joiobaeabertawe.com