Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwylwyr Gorymdaith y Nadolig yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw

Mae preswylwyr ac ymwelwyr sy'n edrych ymlaen at ddod i Orymdaith y Nadolig flynyddol Abertawe ar 21 Tachwedd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw.

Xmas Parade 2019

Xmas Parade 2019

Disgwylir i filoedd fwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnir gan y cyngor a fydd yn cynnwys cymysgedd bywiog o grwpiau cymunedol, difyrwyr proffesiynol trawiadol, bandiau gorymdeithio, cerbydau sioe hudol, cymeriadau ffilm lliwgar ac offer chwyddadwy Nadoligaidd.

Bydd Siôn Corn yno hefyd i gynnau goleuadau gwell a helaethach y Nadolig yng nghanol y ddinas.

Mae'r cyngor yn annog y rheini sy'n bwriadu dod i wirio'r trefniadau, cynllunio ymlaen llaw a chyrraedd mewn da bryd ar gyfer y dechrau - a sefyll ar wasgar ar hyd y llwybr i helpu i ffrwyno lledaeniad COVID.

Disgwylir i ddigwyddiad nos Sul ddechrau am 5pm, gyda pharcio ar gael mewn sawl lleoliad gan gynnwys meysydd parcio canol y ddinas.

Bydd newidiadau i draffig ffyrdd yn cynnwys dargyferiaidau o ffyrdd fel Quay Parade, Oystermouth Road, Princess Way, y Stryd Fawr, Orchard Street a Ffordd y Brenin. Bydd Victoria Road a Quay Parade ar gau dros dro i'r ddau gyfeiriad o New Cut Road i Princess Way o oddeutu 4pm Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.

Bydd bysus am ddim yn rhedeg i bawb eu defnyddio fel rhan o gynnig gaeaf  #BysusAmDdimAbertawe y cyngor. Bydd safleoedd parcio a theithio yn gweithredu'r dydd Sul hwn yn Fabian Way a Glandŵr o11am i oddeutu 8.30pm, gyda'r ddau wasanaeth yn gollwng teithwyr yng Ngorsaf Drenau Abertawe. Y gost fesul cerbyd - am hyd at bedwar person - yw £1.

Bydd synau uchel, goleuadau fflachiog ac effeithiau arbennig yn ystod y digwyddiad. Cynghorir y rheini y mae angen iddynt fod mewn lle tawelach i'w gwylio ar ben St Helen's Road o Ffordd y Brenin neu ar ben y Stryd Fawr ac Orchard Street. Bydd lle gwylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Princess Way ac yn mynd i Sgwâr y Castell lle bydd Siôn Corn yn cynnau rhai o oleuadau canol y ddinas o'i sled. Bydd yr orymdaith yn parhau i fyny'r Stryd Fawr, i lawr Orchard Street ac i Ffordd y Brenin lle bydd Siôn Corn yn cynnau gweddill y goleuadau Nadolig, cyn i'r orymdaith ddod i ben ar ben gorllewinol Ffordd y Brenin.

Rhagor o wybodaeth: www.nadoligabertawe.com

Llun:Un o Orymdeithiau Nadolig y gorffennol yn Abertawe.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022