Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith y Nadolig yn llwyddiant ysgubol

Roedd degau ar filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe wedi mwynhau Gorymdaith y Nadolig flynyddol canol y ddinas.

Santa

Xmas Parade Crowd 2023

Gwnaethant fwynhau'r digwyddiad am ddim gan y cyngor a oedd yn cynnwys cymysgedd bywiog o grwpiau cymunedol lleol, dawnswyr, bandiau, corau, ceir sioe, offer chwyddadwy, cymeriadau wedi'u goleuo, tywysogesau ac archarwyr.

Roedd Siôn Corn yno hefyd i gynnau'r goleuadau Nadolig yng nghanol y ddinas.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r rheini nad oeddent yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn y digwyddiad yn bendant yn ei theimlo nawr!

"Roedd llawer o grwpiau a chymunedau wedi cymryd rhan a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu mewnbwn a'u gwaith caled. Rwyf am ddiolch hefyd i noddwyr y digwyddiad am eu cefnogaeth ar gyfer yr orymdaith."

Bydd atyniadau Nadoligaidd eraill sydd ar ddod yn helpu i sicrhau Nadolig llawn hwyl yn Abertawe eleni.

Bydd dwy brif goeden Nadolig - yn Sgwâr y Castell a thu allan i westy The Dragon Partneriaid coed Nadolig y cyngor yw Cymunedau am Waith a Mwy a Kartay.

Mae goleuadau yng nghanol y ddinas yn cynnwys nodweddion golau sy'n newid lliw yn y coed ar hyd Stryd Rhydychen a Wind Street.  

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ar bwys yr LC ar agor. Mae'r atyniad a gynhelir gan Sayers Events yn cynnig llyn iâ, atyniadau ffair bleser, olwyn fawr ac ardal bwyd a diod y Pentref Alpaidd.

Cynhelir Marchnad Nadolig Abertawe, marchnad awyr agored yng nghanol y ddinas, o 24 Tachwedd i 20 Ragfyr.

Mae Caban y Carolwr yn Portland Street, yn rhan o Farchnad y Nadolig, ac yno cynhelir rhaglen o adloniant Nadoligaidd a fydd yn cynnwys corau ysgol a cherddoriaeth fyw. Cynhelir digwyddiad Uchelwydd a Marchnadoedd ar 25 Tachwedd yn y caban ac ym Marchnad Abertawe lle bydd adloniant byw, perfformwyr stryd a chymeriadau arbennig o 11am i 4pm.

Disgwylir i bantomeim Theatr y Grand, Cinderella, redeg o 9 Rhagfyr i 7 Ionawr.

Bydd gwasanaethau bysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig os yw'r daith yn dechrau ac yn gorffen o fewn ffin y sir ac yn dechrau cyn 7pm.

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com