Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyhoedd yn cael y cyfle i ddylanwadu ar gynllun gwella Parc Singleton

​​​​​​​Mae defnyddwyr y parc a'r rheini sy'n mynd i gyngherddau yno'n cael eu hannog i roi eu syniadau am sut y gellir gwella Parc Singleton wrth iddo barhau i gynnal digwyddiadau mawr.

Singleton Park concert

Singleton Park concert

Maen nhw'n cael eu gwahodd i sesiynau galw heibio yn y parc, lle gallai materion i'w trafod amrywio o ddraenio a goleuadau i Wi-Fi a mynediad.

Yr arbenigwr digwyddiadau o Gymru, SC Productions sy'n hwyluso llwyfannu sawl digwyddiad mawr ym Mharc Singleton bob blwyddyn, fydd yn cynnal y sesiynau hyn ar ran Cyngor Abertawe.

Mae'r cyngor wedi addo £350,000 o'i raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) eang i wneud y gwelliannau eleni.

Mae menter CFfG amrywiol y Cyngor sy'n ymwneud â diwylliant a thwristiaeth yn buddsoddi yn Abertawe a'i phobl, gan gryfhau sectorau diwylliant a thwristiaeth yr ardal.

Mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy ei Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae Parc Singleton wedi'i sefydlu bellach yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau mawr sy'n cael eu mwynhau gan ddegau ar filoedd o bobl bob blwyddyn.

"Mae e' hefyd yn lle hardd a phwysig i bobl sy'n ei fwynhau ar gyfer ffurfiau hamdden eraill drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cerdded, beicio ac ymlacio.

"Rydym am sicrhau bod yr holl welliannau rydym yn eu gwneud eleni'n adlewyrchu anghenion a dymuniadau preswylwyr lleol a defnyddwyr y parc o bob math

"Nid oes penderfyniadau wedi'u gwneud eto ac mae'r sesiynau galw heibio'n gyfle delfrydol i bobl ddylanwadu ar sut y gall cyllid y CFfG gael ei ddefnyddio. Er mwyn bod yn glir, nid ymgynghoriad yw hwn ynghylch a ddylid parhau i gynnal digwyddiadau a chyngherddau mawr yn y parc."

Disgwylir i'r sesiynau galw heibio, y mae croeso i bawb fynd iddynt, gael eu cynnal ar bwys Bwthyn Swistirol y parc ddydd Iau, 11 Ebrill o 1pm i 4pm a ddydd Gwener, 12 Ebrill o 10am i 1pm. Gall y rheini nad ydynt yn gallu mynd i'r sesiynau galw heibio fynegi eu barn drwy lenwi holiadur ar-lein - www.bit.ly/SPquestions24.

Yna caiff yr adborth ei ddefnyddio wrth i'r cyngor greu ei gynllun gwelliannau ar gyfer y parc.