Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun gwaith yn cynnig gobaith newydd i bobl Abertawe yn y farchnad swyddi

Mae mwy na 250 o bobl sy'n chwilio am waith wedi cael eu cefnogi gan raglen gyflogaeth newydd yn Abertawe.

Ashley Norman

Ashley Norman

Roeddent i gyd naill ai'n ddi-waith neu'n anweithgar yn economaidd - a chafodd pob un ohonynt gefnogaeth drwy'r rhaglen Llwybrau at Waith

Mae'r cynllun, a reolir gan y cyngor, yn cynnig nifer o leoliadau gwaith â thâl yn y cyngor neu mewn busnesau lleol. Hyd yn hyn, mae'r elfen hon o Lwybrau at Waith wedi cefnogi 15 o unigolion. Bydd mwy yn debygol o ddilyn gan fod y cynllun wedi'i ehangu tan ddiwedd y flwyddyn hon ar ôl y cynllun prawf chwe mis.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor,Alyson Pugh, "Mae'n wych ein bod yn gallu cynnig gobaith newydd yn y ffordd hon i bobl sydd am gael gwaith."

Yn Abertawe, mae Llwybrau at Waith - a ariennir gan Lywodraeth y DU - yn agored i breswylwyr lleol sydd naill ai'n ddi-waith yn y tymor hir neu'n 16 oed ac yn hŷn ac yn anweithgar yn economaidd. Mae'n cynnig cefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd, cefnogaeth i wella sgiliau (gan gynnwys sgiliau digidol), gwirfoddoli a lleoliadau â thâl.

Mae'r cynllun lleol wedi derbyn £754,186 gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Mae'n agored i bobl o bob oed sy'n anweithgar yn economaidd neu'n ddi-waith yn y tymor hir.

Mae Ashley Norman, yn y llun, 17 oed, oWaunarlwydd, bellach ar gontract chwe mis gyda Thîm Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol y cyngor.

Mae gan Conor Protheroe, 17 oed, o Dreboeth, drefniant tebyg ar waith gyda'r un tîm yn y cyngor ar ôl ei lwyddiant ei hun mewn lleoliad. Mae e' bellach yn defnyddio'i sgiliau aml-grefft gyda'r Tîm Gwasanaethau Adeiladu.

Mae'r cyngor wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau polisi i ddarparu cefnogaeth yn y misoedd i ddod i'n cymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Roedd parhau i greu miloedd o swyddi newydd ar gyfer pobl Abertawe, er mwyn darparu cyflogaeth sicr ac o ansawdd, yn un o'r ymrwymiadau hyn.

Mae partneriaid yng nghynllun Llwybrau at Waith Cyngor Abertawe yn cynnwys Coleg Gŵyr Abertawe, Barnardo's, Technocamps, CGGA (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe), tîm NEET (Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) y ddinas ac YMCA Abertawe.

I ddysgu mwy am y cynllun, ffoniwch 01792 637112 neu e-bostiwch LlwybrauGwaith@abertawe.gov.uk.

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2022