Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfa arian cyflogadwyedd a sgiliau gwerth £2m

Bydd gan brosiectau yn Abertawe sy'n bwriadu rhoi hwb i gyflogadwyedd a sgiliau pobl leol bellach gyfle i elwa o gronfa arian fawr newydd gwerth £2m.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer rhaglen angori Cyngor Abertawe o'r enw Llwybrau at Waith fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r cyngor yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr sy'n cyflwyno gweithgarwch ymgysylltu, cefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd neu gefnogaeth sgiliau a hyfforddiant ar gyfer pobl sy'n anweithgar yn economaidd, pobl ddi-waith a phobl sy'n gweithio sy'n 16 oed ac yn hŷn yn Abertawe.

Anogir ymgeiswyr posib i fynd i abertawe.gov.uk/DUGACabertaweam ragor o wybodaeth, a bydd ceisiadau ar agor tan 22 Mai eleni.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae buddsoddi mewn pobl a sgiliau'n un o flaenoriaethau allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a dyma'r rheswm pam rydym wedi rhoi'r rhaglen angori cyflogadwyedd Llwybrau at Waith ar waith.

"Mae cynifer o sefydliadau yn Abertawe a allai elwa o'r cyllid hwn, felly gofynnwn i ddarparwyr o sectorau cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant y ddinas i ddarllen yr wybodaeth sydd ar gael ar-lein a chyflwyno cais erbyn y dyddiad cau er mwyn iddo gael ei ystyried."

Meddai'r Cyng. Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Mae gwella cyflogadwyedd a sgiliau cynifer o bobl ag sy'n bosib yn hynod bwysig ar adeg lle mae ein gwaith adnewyddu gwerth £1bn, a fydd yn creu miloedd o gyfleoedd swyddi i breswylwyr lleol, yn parhau yn Abertawe."

Cyfanswm gwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i Abertawe yw £38.4m.

Mae prosiectau angori eraill sydd bellach yn fyw'n cynnwys pecyn o gynlluniau i gefnogi busnesau Abertawe, gan gynnwys grantiau cychwyn busnes, grantiau twf, grantiau lleihau carbon a grantiau datblygu cyflenwyr.

Gall busnesau Abertawe sydd â diddordeb mewn dysgu am y cyfleoedd grant hyn fynd i abertawe.gov.uk/ariannubusnesau am ragor o wybodaeth ac am fanylion ynghylch cyflwyno cais.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn un o gronfeydd Llywodraeth y DU a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd nad ydynt ar gael mwyach yn dilyn Brexit. Mae hefyd yn rhan o agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mai 2023