Sioe deithiol cymorth i fusnesau yn dod i Ben-clawdd
Mae cymhorthfa cymorth i fusnesau am ddim Abertawe ar daith unwaith eto'r wythnos nesaf ac yn cynnal digwyddiad ym Mhen-clawdd.
Bydd gwybodaeth am grantiau a benthyciadau ar gael yn y digwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol Pen-clawdd ar Victoria Road ddydd Gwener 26 Ebrill.
Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Abertawe a bydd yn para o 10am i 1pm. Bydd y digwyddiad galw heibio hefyd yn cynnwys help gyda cheisiadau am gyllid, cyngor ar recriwtio a hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a chyfeirio at asiantaethau perthnasol.
Bydd cynrychiolaeth y Cyngor yn y digwyddiad yn cynnwys arbenigwyr cymorth i fusnesau, y tîm cyflogadwyedd Llwybrau at Waith a swyddog ymgysylltu band eang.
Bydd sefydliadau eraill yn y digwyddiad yn cynnwys Coleg Gŵyr Abertawe, Busnes Cymru, Focus Futures a Banc Datblygu Cymru.
Does dim angen archebu lle ymlaen llaw i fynd i'r digwyddiad.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae busnesau'n sicrhau llwyddiant i economi Abertawe, felly rydym yn ymroddedig i'w helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
"Y gymhorthfa cyngor i fusnesau am ddim ym Mhen-clawdd yw'r digwyddiad sioe deithiol diweddaraf o nifer ar draws y ddinas wrth i ni geisio darparu cymorth i fusnesau ym mhob rhan o Abertawe.
"Mae nifer o fusnesau sydd wedi bod i ddigwyddiadau tebyg dros y misoedd diwethaf wedi siarad am y buddion o alw heibio, felly byddem yn annog busnesau eraill i wneud yr un peth."
Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth am gymorth i fusnesau yn Abertawe.
Mae'r we-dudalen yn cynnwys dolenni i wybodaeth am gyfleoedd ariannu, cymorth digidol, a chyngor am recriwtio a hyfforddiant.
Cynhelir digwyddiadau sioe deithiol cymorth i fusnesau am ddim eraill dros y misoedd nesaf, a chaiff y lleoliadau eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.