Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwersi mewn bwyta'n iach ar gael yn dilyn buddsoddiad mewn ysgol

Mae prydau iach a choginio ar gyllideb yn wersi difyr a fydd ar gael i ddisgyblion a'u teuluoedd yn Ysgol Gynradd Penclawdd.

Penclawdd Primary new kitchen

Penclawdd Primary new kitchen

Diolch i grant, mae ardal gegin ystafell staff bresennol yr ysgol wedi cael ei hailbwrpasu a chaiff ei defnyddio cyn bo hir ar gyfer clwb bwyta'n iach a choginio ar ôl ysgol.

Drwy weithio gyda chefnogaeth The Sharing Table - elusen sy'n gwella bywydau plant dan anfantais yng Ngwŷr ac Abertawe - yn ogystal â Hwb Bwyd Gogledd Gŵyr a Banc Bwyd Gorseinon, nod y prosiect fydd addysgu plant a theuluoedd i goginio, bwyta'n iach, defnyddio llysiau, dilyn ryseitiau a datblygu sgiliau gydol oes.

Daeth y grant i newid y gegin o gyllid cyfalaf menter Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned Llywodraeth Cymru.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi'r ysgol a'i bartneriaid i gyflwyno gwersi gwerthfawr ar fwyta a choginio'n iach a fydd o fantais iddynt am weddill eu bywydau."

Close Dewis iaith