Toglo gwelededd dewislen symudol

Iechyd da! Distyllfa Penderyn yn derbyn yr allweddi ar gyfer ei lleoliad newydd yn Abertawe

Mae prosiect adfywio allweddol yn Abertawe wedi cael ei drosglwyddo i'r busnes Cymreig o'r radd flaenaf, Distyllfa Penderyn.

Copperworks Penderyn handover

Copperworks Penderyn handover

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn trawsnewid ardal sylweddol o hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa dros y tair blynedd diwethaf.

Gweithiodd y cyngor gyda phartneriaid - gan gynnwys wisgi Penderyn a Phrifysgol Abertawe - i greu'r cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi darparu £4m o arian grant ar gyfer y prosiect. Mae'r prosiect hefyd wedi derbyn £500 mil o gyllid Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac mae gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill fel rhan o'r prosiect hwn wedi cael cymorth gan gyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru.

Mae adeiladau Distyllfa Penderyn - sydd wedi eu hachub, eu gwella a'u hadeiladu o'r newydd ar ran y cyngor gan John Weaver Contractors o Abertawe - ar safle hen ddiwydiant a oedd wedi rhoi Abertawe ar y map ar gyfer cynhyrchu copr yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Mae Distyllfa Penderyn bellach yn gosod cyfarpar a fydd yn helpu i wneud y safle'n ddistyllfa weithredol ac atyniad i ymwelwyr.

Byddant yn parhau i weithredu o safleoedd Penderyn presennol ar draws Cymru. Bydd y cyngor yn parhau i adfywio'r gwaith copr a'r ardal Cwm Tawe Isaf o'i gwmpas gyda chymorth £20m o gyllid gan raglen Codi'r Gwastad Llywodraeth Cymru. Mae'r cyngor hefyd yn parhau i adfywio canol y ddinas.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wrth ein boddau i drosglwyddo'r safle rhagorol hwn i Ddistyllfa Penderyn.

"Drwy ddefnyddio'u gwybodaeth a'u harbenigedd fel un o lwyddiannau modern gorau Cymru, rwy'n hyderus y byddant yn defnyddio'r safle hwn o bwys treftadaeth mawr i ddod â chyfleoedd newydd i genedlaethau'r dyfodol."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Diolchwn i'n harianwyr a'n contractwyr am eu holl help, cefnogaeth a sgil. Dyma gam allweddol arall yn ein rhaglen adfywio barhaus gwerth £1bn i wneud Abertawe'n lle gwych i fyw, gweithio, astudio a threulio amser hamdden."

Meddai Prif Swyddog Gweithredu Distyllfa Penderyn, Neil Quigley, "Mae cymaint o hanes ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhan honno o hanes wrth symud ymlaen, ac wrth i bob wythnos fynd heibio mae'n gyffrous gweld y safle'n dod yn fyw unwaith eto.

"Rydym yn falch o fod yn agor ein trydedd distyllfa yng Nghymru, ar un o safleoedd treftadaeth gorau Abertawe ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr, unwaith y bydd ein drysau ar agor."

Distyllfa Penderyn yw cartref wisgi Cymreig ac mae wedi cyflwyno distyllu yng Nghymru unwaith eto ar ôl mwy na chanrif. Maent yn cynhyrchu wisgi a gwirodydd Cymreig arobryn ac yn allforio i dros 50 o wledydd ar draws y byd. Y gyfrinach i lwyddiant Penderyn yw eu proses ddistyllu unigryw, y gallwch ei gweld yn eu distyllfeydd ym mhentref Penderyn yn Ne Cymru; yng nghanol Llandudno, Gogledd Cymru ac yn eu distyllfa newydd yn Abertawe sy'n bwriadu agor ei drysau'r haf hwn. Mae Distyllfa Penderyn ar agor 7 niwrnod yr wythnos ac yn cynnig teithiau o'r ddistyllfa a dosbarthiadau meistr wisgi.

Close Dewis iaith