Atyniad Penderyn Abertawe'n datblygu
Mae gwaith yn parhau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn.
Bydd cynllun y cyngor yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa'n ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni o Gymru.
Mae'r prif gontractwr, John Weaver Contractors, o Abertawe, wedi parhau â'r gwaith yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth drwy gydol y pandemig.
Mae cwmni arall o Gymru, Hayes Engineering & Cladding wedi adeiladu'r fframwaith dur a fydd yn ail-greu tŵr cloc gwreiddiol y pwerdy a nhw fydd yn ei osod hefyd.
Mae ffrâm canolfan ymwelwyr Penderyn wedi'i hadeiladu. Bydd llwybr yn cysylltu'r ganolfan â rhan o felin rolio hanesyddol y safle, lle bydd gan Penderyn storfa casgenni.
Mae'r gwaith yn bosib diolch i grant £3.75 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld y gwaith i adfer y safle hanesyddol hwn yn arwain gwaith adfywio coridor isaf Afon Tawe. Mae'n dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried amddiffyn ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod haf 2020 ac mae'n rhan o raglen adfywio'r ddinas gwerth £1 biliwn a fydd yn helpu Abertawe i arwain y ffordd allan o'r pandemig.
Meddai swyddog gweithredu Penderyn Whisky, Neil Quigley, "Rydym yn falch ein bod ni'n gwneud cynnydd gyda'r prosiect cyffrous hwn a fydd yn darparu lle ychwanegol hanfodol ar gyfer y distyllfa yn ogystal â chyfleuster modern newydd sbon a chyfoes i ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd â'n distyllfeydd ym Mannau Brycheiniog a Llandudno yng ngogledd Cymru."
Sicrhaodd y cyngor grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y gwaith helaeth i drawsnewid safle'r Hafod-Morfa, ac mae gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill yn yr ardal yn cael ei gefnogi gan gyllid adfywio Llywodraeth Cymru.
Gweithiodd y cyngor gyda phartneriaid - gan gynnwys Penderyn a Phrifysgol Abertawe - i greu'r cais i'r Gronfa Dreftadaeth.