Toglo gwelededd dewislen symudol

Llinell gyngor am ddim yn helpu pobl sy'n colli mas ar Gredyd Pensiwn

Mae pobl yn Abertawe sydd wedi ffonio llinell gyngor am ddim i wirio a ydyn nhw'n colli allan ar fudd-daliadau y gallant eu hawlio wedi derbyn £50,000 ychwanegol mewn budd-daliadau wedi'u hôl-ddyddio rhyngddynt.

Pension credit number

Pension credit number

Yn gynharach eleni, lansiodd Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ynghyd â sefydliadau partner, rif ffôn am ddim 0800 112 4763 i gefnogi pobl dros 66 oed a all fod yn colli mas ar Gredyd Pensiwn.

Hyd yn hyn mae'r llinell gymorth wedi helpu pobl i hawlio 113 o wahanol fudd-daliadau yn llwyddiannus, gyda llawer o bobl yn derbyn mwy nag un budd-dal. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o £5,050.10 mewn incwm wythnosol sy'n gyfartaledd o £44.69 yr hawliad.

Ond mae llawer mwy o bobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn dal i golli allan wrth i ffigurau'r llywodraeth ddangos nad yw dau o bob pum person sy'n gymwys i gael y budd-dal yn ei hawlio.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Wrth i ni agosáu at y gaeaf mae costau byw yn cynyddu ac adroddwyd yn helaeth yn ystod y diwrnodau diweddar fod disgwyl i brisiau ynni gynyddu'n sylweddol.

"Gwyddom fod pensiynwyr yn Abertawe sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd a byddaf yn eu hannog i ffonio'r llinell gymorth i weld a ydyn nhw'n colli mas ar arian y mae ganddynt hawl iddo.

"Rydym hefyd yn gwybod bod pob £1 ychwanegol y mae pobl yn ei dderbyn yn werth £4 i'r economi leol, felly drwy hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, maent yn helpu i gefnogi swyddi a busnesau lleol ac mae hyn yn hollbwysig, yn enwedig oherwydd y sefyllfa bresennol."