Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywiaeth gyfoethog o ddysgu mewn ysgol â disgwyliadau uchel

Mae arolygwyr wedi nodi bod Ysgol Gynradd Penyrheol yn ysgol gynhwysol a chroesawgar sy'n darparu amrywiaeth gyfoethog o brofiadau dysgu cyffrous.

Penyrheol Primary Estyn Report 2024

Penyrheol Primary Estyn Report 2024

Maent wedi cyhoeddi eu hadroddiad yn dilyn eu hymweliad yn gynharach eleni ac maent yn dweud bod staff yn sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd sy'n denu eu sylw, yn ysgogi eu chwilfrydedd ac yn datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn dda.

Yn ôl yr adroddiad, "Mae athrawon ar draws yr ysgol yn darparu lefel briodol o gefnogaeth a her sy'n sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf wrth ddatblygu eu sgiliau dros amser.

"Mae arweinwyr ac athrawon yn pennu disgwyliadau uchel i'w hunain ac ar gyfer cynnydd disgyblion ac agweddau at ddysgu. O ganlyniad, mae ymddygiad y disgyblion yn rhagorol ac mae holl aelodau'r tîm staff yn dangos ymrwymiad proffesiynol cryf i'w rolau."