Gwahoddiad i grwpiau gyflwyno cais am gyllid tlodi mislif
Mae cyllid a alluogodd elusennau a sefydliadau sy'n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi mislif i gefnogi bron i 6,000 o fenywod a merched yn Abertawe'r llynedd ar gael eto.
Yn ystod 2021/22, dyfarnodd Cyngor Abertawe mwy na £32,000 i 27 grŵp yn y ddinas.
Roedd y rhain yn cynnwys banciau bwyd, YMCA Abertawe, Cymorth i Fenywod Abertawe, y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, STOPP (Swansea Takes on Period Poverty), Canolfan yr Amgylchedd, Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, Sunflower Lounge, GROW Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe a Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe.
Defnyddiwyd mwy na 75% o'r cyllid i brynu cynhyrchion ecogyfeillgar heb blastig a/neu y gellir eu hailddefnyddio.
Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru mae'r cymorth ar gael eto a gall sefydliadau wneud cais nawr drwy fynd i: https://www.abertawe.gov.uk/GrantUrddasMislifynyGymuned
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 12 Medi.
I gael ffurflen gais neu i drafod cais, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk