Casgliad o luniau yn nodi degawdau allweddol yn hanes cyfoethog Abertawe
Mae casgliad amhrisiadwy o luniau sy'n dangos Abertawe fwy na hanner canrif yn ôl bellach dan ofal diogel yn Amgueddfa Abertawe.
Mae'r delweddau atgofus yn dangos yr ardal yn y 1960au a'r 1970au, o gwmpas yr adeg y daeth Abertawe'n ddinas.
Tynnwyd y lluniau gan yr artist enwog, George Little, a fu farw yn 2017 yn 89 oed.
Rhoddodd ei wraig weddw, Carolyn, o Caswell, y lluniau i'r amgueddfa a gynhelir gan Gyngor Abertawe er lles pobl ar draws y ddinas.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae archif o luniau George Little yn gasgliad hardd o ddelweddau pwysig."
Meddai Carolyn Little, "Mae'n bleser gweld y bydd ffotograffau George yn aros yn y ddinas yr oedd yn ei charu ac yn ei dogfennu."
Fel arlunydd, roedd George Little, a anwyd yn Abertawe, yn cofnodi diwydiant trwm de Cymru.
Yn dilyn ei farwolaeth, gwahoddodd Mrs Little swyddog arddangosfeydd yr amgueddfa, Karl Morgan, i weld yr archif o luniau.
Meddai Karl, "Mae'r cannoedd o negatifau yn dangos bod George yn ffotograffydd gwych, yn ogystal â bod yn arlunydd o safon.
"Y llynedd fe wnaethom gynnal arddangosfa boblogaidd a oedd yn cynnwys rhai o'r delweddau hynny. Byddwn yn parhau i sicrhau eu bod ar gael i'n hymwelwyr."
Cynhaliodd yr amgueddfa ddigwyddiad ar 26 Hydref a oedd yn lansio bywgraffiad newydd - George Little: The Ugly Lovely Landscape gan yr hanesydd celf Peter Wakelin.
Cyhoeddwyd rhodd Mrs Little i'r amgueddfa ar yr un pryd.
Mae'r rhodd yn cynnwys paentiad olew mawr, Merched Cocos Pen-clawdd, a gwblhawyd yn 1953. Mae'n ategu casgliad uchel ei barch yr amgueddfa sy'n ymwneud â diwydiant cocos Pen-clawdd.
Meddai Peter Wakelin, "Daeth George â gwybodaeth weledol ddofn i oes o waith a fu'n archwilio ffurfiau dramatig dirywiad diwydiannol a threfol."
- George Little: The Ugly Lovely Landscape, gan Peter Wakelin, Parthian. www.bit.ly/ParthianULL
Llun: Dociau Abertawe - llun gan George Little.