Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau bwyd a diod poblogaidd yn symud i leoliad newydd

Mae dau fusnes poblogaidd wedi symud i leoliad newydd dros dro wrth i waith hanfodol gael ei wneud i gryfhau amddiffynfeydd môr y Mwmbwls.

Gower Seafood Hut

Mae Gower Seafood Hut a fan goffi Bibby's Beans wedi symud oddi ar y prom i leiniau ym Mharc Southend gerllaw wrth i'r contractwyr Knights Brown ymgymryd â'r gwaith ar ran Cyngor Abertawe.

Mae'r ddau ohonynt ar agor ac yn barod am gyfnod prysur gwyliau'r Pasg.

Mae busnes arall ar hyd y prom - Village Creperie - yn bwriadu ailagor mewn lleoliad cyfagos cyn bo hir.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Rydym yn falch iawn y gall y busnesau bwyd a diod poblogaidd hyn barhau i weini cwsmeriaid o fewn ychydig lathau o'r prom wrth i'n gwaith hanfodol fynd rhagddo."

Mae Gower Seafood Hut yn gwerthu amrywiaeth o bysgod a physgod cregyn a goginiwyd yn ffres.

Mae wedi bod yn masnachu ers 6 blynedd, gyda'r partneriaid, Chris Price a Sarah Kift, yn derbyn clod uchel gan y cyfryngau fel The Observer, Independent, Sunday Times a Daily Telegraph.

Mae Bibby's Beans yn gwerthu amrywiaeth o goffi a diodydd eraill.

Mae'r cydberchennog, Tom Bibby, yn rhedeg y busnes gyda'i frawd, Marc. Mae ganddynt fan borffor yn ardal lan y môr y Mwmbwls, siop goffi mewn cerbyd gwersylla ar lan y môr ger Parc Singleton a fan sy'n teithio i wyliau a marchnadoedd.

Mae Paul Falvey a Dorian Davies sy'n gweithredu'r pod Village Creperie ar y prom yn bwriadu agor yn fuan ar ôl y Pasg mewn lleoliad dros dro newydd ar ochr y môr o faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth.

Maent yn cynnig crepes ffres sydd wedi'u paratoi ar stofiau poeth gan ddilyn rysáit Ffrengig gwreiddiol ac amrywiaeth o lenwadau.

Bydd cynllun amddiffyn arfordirol y Mwmbwls yn cryfhau a gwella tua 1.2 cilomedr o'r prom, o'r llithrfa o flaen tafarn y Pilot i'r morglawdd yn Sgwâr Ystumllwynarth.

Fel rhan o'r gwaith mae'r cyngor yn gwella'r prom i gerddwyr a beicwyr. Bydd mwy o wyrddni.

Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Gyngor Abertawe gyda chyllid o Raglen Rheoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru. Dyluniad gan Amey Consulting. Y prif gontractwr yw Knights Brown.

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf.

Llun: Chris Price a Sarah Kift yn eu caban Gower Seafoot Hut

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Ebrill 2023