Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun planetariwm ar gyfer arsyllfa hanesyddol yn cael hwb arianno

Mae cynlluniau cyffrous i roi bywyd newydd i arsyllfa yn Abertawe wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Observatory at Penllergare Valley Woods

Observatory at Penllergare Valley Woods

Bwriedir creu atyniad ymwelwyr ar ffurf planetariwm yn yr arsyllfa gyhydeddol yng Nghoed Cwm Penllergare, sy'n dyddio nôl i ganol y 19eg ganrif.

Mae Ymddiriedolaeth Penllergare - sy'n rheoli'r safle - wedi llwyddo yn ei chais i Gyngor Abertawe am arian prosiect drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd y cyllid a fydd yn helpu gyda gwaith paratoadol dan arweiniad arbenigwyr, yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau tîm dylunio arbenigol.

Mae'r ymddiriedolaeth, drwy weithio mewn partneriaeth ar y prosiect gydag Awyr Dywyll Cymru, hefyd yn parhau i archwilio ffynonellau ariannu a fyddai'n helpu i gyflawni'r prosiect yn y dyfodol.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cyflwyno cromen yn nhŵr yr arsyllfa sy'n adeilad rhestredig Gradd II i alluogi syllu ar y sêr a phrofiad addysgol sy'n debyg i'r hyn a geir mewn planetariwm..

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Fel rhan o'n dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gwnaethom yn siŵr fod cyllid wedi cael ei roi o'r neilltu ar gyfer ceisiadau sy'n sicrhau bod adeileddau hanesyddol yn Abertawe yn cael eu defnyddio unwaith eto.

"Mae hyn yn bwysig - nid yn unig oherwydd bydd yn helpu i gadw a dathlu treftadaeth gyfoethog Abertawe, ond gan y bydd hefyd yn arwain at brosiectau sy'n fasnachol ddichonadwy sydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas.

"Mae gan yr arsyllfa gyhydeddol yng Nghoed Cwm Penllergare hanes seryddol a stori gefndir hynod ddiddorol, felly rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu cyllid a fydd yn help i roi hwb sylweddol i'r cynlluniau cyffrous hyn.

"Mae'r cyllid yn adeiladu ar yr holl waith gwych a wneir gan Ymddiriedolaeth Penllergare i adfer, cynnal a gwella Coed Cwm Penllergare."

Adeiladwyd yr arsyllfa gan y botanegydd a'r ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewellyn ym 1851 fel rhodd i'w ferch Thereza ar ei phen-blwydd yn 16 oed oherwydd ei diddordeb mewn seryddiaeth.

Ym 1855, tynnodd y ddau un o'r ffotograffau cynharaf o'r lleuad o'r arsyllfa.

Ym 1847, gohebodd Thereza hefyd â Charles Darwin yn nhudalennau'r cylchgrawn gwyddonol 'Nature' ynghylch ei harsylwadau ar adar yn cnoi blodau i fwyta neithdar.

Close Dewis iaith