Plantasia yn chwilio am y naturiaethwr a helpodd i ddatgelu cyfrinachau esblygiad
Yn Plantasia yr hanner tymor hwn gallwch ddarganfod llawer mwy am y Cymro y mae rhai yn honni bod Charles Darwin wedi'i drechu ar y funud olaf yn y ras i ddeall esblygiad bodau dynol.
Roedd y naturiaethwr Alfred Russel Wallace yn gyfartal â'i gyfoeswr enwocach o ran datblygu'r theorïau y tu ôl i esblygiad.
Ac yn awr mae'n destun arddangosfa sydd newydd agor yn Plantasia, sy'n dathlu ei fywyd a'i gyflawniadau. Datblygwyd yr arddangosfa ar y cyd ag Amgueddfa Cymru.
Agorwyd yr arddangosfa yn Plantasia heddiw (dydd Gwener) gan y Cyng. Francis-Davies. Meddai, "Mae Darwin yn enwog ar draws y byd am gyhoeddi theorïau am esblygiad natur yn The Origin of Species.
"Roedd Wallace yn gweithio ar yr un peth, a phetai ef wedi cyhoeddi'r theorïau'n gyntaf, ei enw ef ac nid enw Darwin fyddai'n enwog yn rhyngwladol am fod y person cyntaf i ddeall a thrafod theori detholiad naturiol."
Meddai, "Mae'n briodol iawn bod Plantasia yn cynnal yr arddangosfa oherwydd roedd Wallace yn fforiwr yn ogystal â gwyddonydd, a threuliodd flynyddoedd lawer mewn coedwigoedd glaw ar draws y byd yn datblygu'i syniadau a chwilio am rywogaethau bywyd gwyllt newydd.
"Felly byddai lleoliad fel Plantasia yn sicr wedi teimlo fel ail gartref i Wallace."
Dywedodd Anthony Williams, rheolwr atyniad Plantasia a weithredir gan Parkwood Leisure, fod y lleoliad yn hynod boblogaidd yn ystod y tymor ysgol yn ogystal â'r gwyliau ysgol.
"Mae Plantasia yn gyfle gwych i bobl ifanc ddatblygu diddordeb mewn natur a chael cyfle i ddod wyneb yn wyneb â'r creaduriaid y byddant wedi cwrdd â nhw petaent ar alldaith gyda Wallace flynyddoedd maith yn ôl.
"Roedd ei stori ef yn dangos pa mor agos a ddaeth at gael ei gydnabod gyda Darwin am y syniadau sydd wedi newid y ffordd rydym yn deall y byd, ac sydd wedi dylanwadu ar ein bywydau, yn ogystal ag astudiaeth natur ers hynny.
"Mae ein harddangosfa - Wallace, the Forgotten Evolutionist - yn helpu i wneud yn iawn am hynny mewn lle sy'n llawn straeon, pryfed ac anifeiliaid y byddai Wallace ei hun wedi'u hadnabod."