Disgyblion yn ffynnu mewn ysgol gynradd gynhwysol
Mae Ysgol Gynradd Plasmarl yn ysgol gynhwysol iawn lle mae plant yn ffynnu, yn ôl arolygwyr Estyn.
Ymwelwyd â'r ysgol yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Mae'n dweud: "Mae'r gymuned ysgol yn gwerthfawrogi'r holl blant am eu hunaniaeth a'u cyfraniadau at gymuned Plas-marl.
"Mae'r staff yn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar lle gall disgyblion deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae ymagwedd gyfannol yr ysgol at les yn rhagorol.
"Mae bron bob disgybl yn cyflawni'n dda ar draws yr ysgol.
"Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion cymdeithasol ac emosiynol yn gwneud cynnydd da o ganlyniad i'r gefnogaeth unigol ac arbenigol a gânt gan athrawon a staff cymorth medrus iawn a chymhellol."