Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith wedi'i gwblhau ar bontŵn afon Tawe

Mae gwaith i osod pontŵn i gychod mewn safle adfywio allweddol yn Abertawe wedi'i gwblhau.

Tawe Pontoon

Tawe Pontoon

Mae contractwyr sy'n gweithio ar ran y cyngor wedi gosod yr adeiledd newydd ar lan yr afon yng Nglandŵr ar hyd afon Tawe.

Mae e' nesaf at safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa sy'n cael ei drawsnewid fel rhan o raglen gyfredol gwerth £1bn y cyngor i adfywio'r ddinas.

Roedd cyllid prosiect y pontŵn yn cynnwys cymorth gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, sy'n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru (y prif bontŵn a'r goleuadau) a chan Gynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru (y gatiau a'r rheiliau dur gwrthstaen).

Y prif gontractwyr oedd yr arbenigwyr pontynau Inland and Coastal Marina Systems.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Bydd ein pontŵn afon newydd - a dau arall sydd yn yr arfaeth - yn helpu i ddenu rhagor o bobl i atyniadau fel y gwaith copr."

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y pontŵn sydd newydd ei osod eu llunio i'r cyngor gan yr arbenigwyr treftadaeth Ashley Davies Architects a'r arbenigwyr saernïol Mann Williams.

Mae gan yr adeiledd ac ochr y cei gyfarpar diogelwch, arwyddion ac ysgolion wal. Mae bwiau achub wedi cael eu gosod, yn ogystal â gatiau y gellir eu cloi ar gyfer deiliaid allweddi.

Caiff ei reoli a'i gynnal a chadw gan dîm Marina Cyngor Abertawe.

I ddechrau, grwpiau sefydledig ac anfasnachol cyfansoddiadol sydd eisoes yn defnyddio'r afon fydd yn gallu'i ddefnyddio.

Wrth i'r defnydd ohono ddatblygu, bydd y cyngor yn ystyried sut y gellir caniatáu i eraill ddefnyddio'r pontŵn - gan roi'r flaenoriaeth uchaf i ddiogeled a diogelwch.

Llun: Y pontŵn newydd. Llun: P&D Environmental Limited

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2023