Toglo gwelededd dewislen symudol

Pontŵn Tawe yn cael ei groesawu gan grwpiau'r afon

Mae gosod pontŵn cychod mewn safle adfywio allweddol yn Abertawe wedi'i groesawu gan grwpiau sy'n defnyddio afon Tawe'r ddinas.

Pontoon - Open now

Pontoon - Open now

Mae mordeithiau Copper Jack, Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe a Chlwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe i gyd yn bwriadu defnyddio'r cyfleuster newydd dan drwydded gan Gyngor Abertawe.

Bydd y ffioedd trwydded yn helpu'r cyngor i gynnal y pontŵn sydd newydd agor mewn lleoliad glan afon yng Nglandŵr, tua 1.5 milltir i fyny'r afon o Forglawdd Tawe.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch o groesawu'r grwpiau nid er elw gwych hyn i fod y rhai cyntaf i ddefnyddio'r cyfleuster rhagorol hwn."

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cychod Cymunedol Abertawe, Mark Whalley, "Bydd y pontŵn yn ein galluogi i ehangu'r opsiynau rydym yn eu cynnig ar ein cwch sydd wedi'i enwi'n addas, y Copper Jack, gan ganiatáu i deithwyr fynd ar fwrdd y cwch a glanio er mwyn teithio o gwmpas distyllfa Penderyn, gweld atyniadau hanesyddol eraill Gwaith Copr yr Hafod-Morfa ac ymweld â stadiwm Swansea.com.

Meddai cadeirydd Clwb Rhwyfo Abertawe, Jonathan Rance, "Mae'r pontŵn yn golygu bod gan y clwb yr opsiwn i lansio i fyny'r afon yn y Morfa. Hefyd, mae gan y pontŵn fynedfa i'r anabl a fydd yn gadael i'n para-rwyfwyr fwynhau manteision rhwyfo yn y Morfa."

Meddai Ben Lucas, cyfarwyddwr cyswllt gwasanaethau masnachol ym Mhrifysgol Abertawe, "Bydd y pontŵn - a datblygiadau cysylltiedig - yn dechrau cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ddefnyddio'r afon i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar bob lefel."

Roedd cyllid ar gyfer y pontŵn cyntaf yn cynnwys cymorth gan Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe (GGLlPBA) a Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a chan Gynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru.

Y prif gontractwyr oedd Inland a Coastal Marina Systems. Lluniwyd y cynlluniau gan Ashley Davies Architects a'r arbenigwyr saernïol Mann Williams.

Mae gan y pontŵn a'r glan cei gyfagos gyfarpar diogelwch, arwyddion ac ysgolion wal. Mae bwiau achub a gatiau cloadwy i ddeiliaid allweddi.

Caiff ei reoli a'i gynnal a chadw gan dîm Marina Cyngor Abertawe.

Grwpiau sefydledig ac anfasnachol cyfansoddiadol sydd eisoes yn defnyddio'r afon fydd yn gallu'i ddefnyddio i ddechrau. Wrth i'r defnydd ohono ddatblygu, mae'r cyngor yn bwriadu ystyried sut gellir caniatáu i eraill ei ddefnyddio, gan roi'r flaenoriaeth uchaf i ddiogeled a diogelwch.

Mae dau bontŵn arall, estyniad i Amgueddfa Abertawe, trawsnewid y gwaith copr ymhellach a gwelliannau i'r Strand yn rhan o brosiect £28.7m i wella Cwm Tawe Isaf sy'n cael ei arwain gan y cyngor a'i ariannu'n rhannol gan raglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2023