Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion mewn ysgol hapus yn meddu ar agweddau cadarnhaol at ddysgu

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Pontybrenin yn teimlo eu bod yn cael gofal a chymorth, ac mae ganddynt agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, yn ôl arolygwyr o Estyn.

Pontybrenin Primary Estyn Report 2024

Pontybrenin Primary Estyn Report 2024

Meddent, "Mae'r disgyblion, y staff a'r rhieni'n falch o'r ethos hapus a chyfeillgar yn yr ysgol.

"Mae'r ymdeimlad cartrefol a'r croeso cynnes yn gwneud i ymwelwyr deimlo eu bod yn rhan o gymuned yr ysgol yn gyflym." 

Gwnaeth arolygwyr ymweld â'r ysgol yn ardal Gorseinon yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.

Mae'n datgan, "Mae ymddygiad bron pob disgybl yn ardderchog ac mae parch y disgyblion tuag at ei gilydd a'r holl oedolion yn gryfder.

"Maent yn ystyriol ac yn hynod gwrtais, gan barchu eu ffrindiau ac oedolion. Maent yn dwlu ar ddod i'r ysgol ac yn siarad yn frwd am fywyd yn yr ysgol."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2024