Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc bach yn arwain y ffordd tuag at ddyfodol gwyrddach

Mae parc bach newydd Abertawe yn arwain y ffordd ymlaen wrth i'r byd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Pop Up Park Signs

Pop Up Park Signs

Mae'r parc dros dro yng nghanol y ddinas newydd gael ei wella gyda phaneli gwybodaeth allweddol.

Mae miloedd o bobl yn ymweld â'r cyfleuster - sef y parc bach - rhwng eglwysi'r Santes Fair a Dewi Sant bob wythnos.

Mae'r paneli newydd yn esbonio pam ei fod mor bwysig i annog bioamrywiaeth lleol wrth i'r byd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, David Hopkins, "Mae ein datblygiadau mawr yng nghanol y ddinas - gan gynnwys y gwaith sydd ar ddod i wella Gerddi Sgwâr y Castell - yn adlewyrchu ein nod ar gyfer dinas gwyrddach a mwy bioamrywiol.

"Mae'r parc bach dros dro hwn yn arwain y ffordd ar gyfer bioamrywiaeth yng nghanol y ddinas. Mae'n dylanwadu ar brosiectau allweddol eraill ac yn cael ei ddefnyddio i dreialu amrywiaeth eang o blanhigion sy'n gyfeillgar i beillwyr ac atebion ar sail natur."

Crëwyd y gosodiad gan y cyngor mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Mae'n cynnwys mwy na 40 o blanwyr pren â seddi sy'n rhan ohonynt.

Meddai Hamish Orborn o CNC, "Mae'r paneli gwybodaeth yn helpu pobl i weld sut mae dod â natur i'r ddinas yn ei gwneud yn lle gwell i fod, yn ogystal â bod yn dda ar gyfer bywyd gwyllt, lleihau llygredd a llifogydd a helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a'n hamddiffyn rhagddo."

Lluniau: Parc dros dro Gogledd Abertawe Ganolog. Llun: Cyngor Abertawe

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023