Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect newydd yn ailddefnyddio unedau gwag

Bydd nifer o unedau gwag yng nghanol y ddinas a chanolfannau siopa ardal Abertawe'n cael eu hailddefnyddio dros dro, diolch i brosiect newydd.

Urban Kitchen

Urban Kitchen

Bydd yr asiantaeth adfywio creadigol Urban Foundry yn cyflwyno'r contract 'Mannau dros Dro' mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe. Dyrannwyd cyllid ar gyfer y darn yma o waith drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Darperir cyfleoedd ar gyfer busnesau annibynnol newydd fel rhan o'r prosiect, yn ogystal â chynhyrchwyr bwyd a chrefft lleol, mentrau cymdeithasol a gweithgareddau celf a diwylliant dros dro.

Yn ogystal ag adeiladau masnachol gwag yng nghanol dinas Abertawe, bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar unedau gwag yng nghanolfannau siopa ardal Treforys, Pontarddulais, Clydach, Gorseinon, y Mwmbwls, Uplands a Sgeti.

Dyfarnwyd cyllid i'r prosiect fel rhan o brosiect angori Trawsnewid Trefi cyffredinol Cyngor Abertawe. 

Y gobaith yw, bydd y defnydd dros dro hefyd yn rhoi'r cyfle i'r busnesau a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan ddangos eu potensial ar gyfer gosod am dymor hwy, gan helpu i leihau nifer y mangreoedd masnachol gwag yn Abertawe ymhellach.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd ffactorau fel siopa ar-lein a chanolfannau siopa ar gyrion y dref wedi arwain at lai o ymwelwyr a mwy unedau gwag yng nghanol y ddinas ac mewn mannau eraill yn Abertawe.

"Er bod y ffactorau hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, rydym wedi bod yn gwneud popeth y gallwn fel cyngor i greu ardaloedd siopa mwy bywiog gydag enghreifftiau sy'n cynnwys rhaglen fuddsoddi barhaus yng nghanol y ddinas sydd werth dros £1 biliwn.

"Bydd y prosiect Mannau Dros Dro, a arweinir gan Urban Foundry, yn ychwanegu gwerth at bopeth y mae'r cyngor yn ei wneud drwy gyflwyno defnyddiau dros dro mewn nifer o unedau gwag, nid yn unig yng nghanol y ddinas, ond mewn mannau eraill yn Abertawe hefyd.

"Bydd yn annog arloesedd, yn rhoi llwyfan i fusnesau newydd dyfu a chreu mwy o fywiogrwydd wrth hefyd gefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr."

Caiff gweithgareddau nad ydynt yn cystadlu gyda busnesau sydd eisoes yn bodoli eu hannog ar gyfer yr unedau gwag sy'n cael eu targedu.

Mae Urban Foundry yn ceisio dechrau ailddefnyddio 11 o unedau erbyn mis Tachwedd 2024.

Gall landlordiaid eiddo gwag a darpar ddefnyddwyr yr eiddo hynny gofrestru eu diddordeb drwy wefan ddynodedig y prosiect yn www.popupwales.com

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Tachwedd 2023