Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion ysgol yn ailgylchu blodau priodas i'w rhoi fel anrhegion cymunedol

Mae prosiect ysgol sy'n cynnwys disgyblion ysgolion cynradd yn ailgylchu tuswau blodau priodas yn duswau i godi calonnau pobl a all deimlo'n unig neu'n ynysig yn dechrau datblygu'n dda.

Penyrheol Primary School's Positive Posies project

Penyrheol Primary School's Positive Posies project

Meddyliodd staff yn Ysgol Gynradd Penyrheol am y syniad ar ôl i un o'r athrawon briodi yn lleoliad priodasol Fairyhill ym mhenrhyn Gŵyr y llynedd.

Mae rhai pobl yn hoffi cadw eu blodau ond mae eraill yn eu gadael ar ôl yn dilyn y diwrnod mawr.

Gofynnodd yr ysgol i Fairyhill a oedd modd iddi gasglu'r blodau, fel y gallai'r disgyblion eu hailddefnyddio er mwyn creu tuswau i'w rhoi i aelodau'r gymuned, gan eu bod yn dysgu am weithredoedd caredig syml.

Mae cyplau bellach yn cael eu gwahodd i gyfrannu eu blodau ar ddiwedd eu diwrnod priodas a hyd yn hyn mae dros 1,800 o duswau wedi cael eu darparu, ynghyd â chardiau oddi wrth y disgyblion sydd wedi'u gwneud er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl eraill.

Close Dewis iaith