Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae dathliad lliwgar o amrywiaeth yn dychwelyd gyda Pride Abertawe

Mae awyrgylch carnifal ar y ffordd i'r ddinas wrth i Pride Abertawe ddychwelyd am flwyddyn arall ddydd Sadwrn, 18 Mai, gyda gorymdaith liwgar drwy ganol y ddinas wedi'i dilyn gan brynhawn o adloniant byw o flaen Neuadd y Ddinas.

Pride Preview 2024

Pride Preview 2024

Unwaith eto, mae'r ŵyl am ddim ac mae gwahoddiad i bawb.

Disgwylir i'r orymdaith flynyddol adael Wind Street am 11am a bydd yn mynd ar hyd Stryd Rhydychen a St Helen's Road i Neuadd y Ddinas.

Caiff llwyfan ei gosod yn y maes parcio ym mlaen yr adeilad a fydd yn cynnal adloniant byw rhwng 12 ganol dydd a 7pm.

Yn union fel y llynedd, bydd  Parth Cymunedol Pride Abertawe y tu mewn yn Neuadd Brangwyn gyfagos, gyda llawer o stondinau gwybodaeth gan sefydliadau, gwasanaethau cefnogi, elusennau, grwpiau cymunedol a masnachwyr crefftau hefyd.

Trefnir Pride Abertawe'n annibynnol ond fe'i cefnogir gan Gyngor Abertawe.

Mae rhestr lawn o actau, gweithgareddau a gwybodaeth arall ar gael yn www.swanseapride.co.uk