Toglo gwelededd dewislen symudol

Cytundebau tir yn cymryd cam ymlaen ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £4 biliwn

Mae cynlluniau ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £4 biliwn, a fydd yn rhoi Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi economi werdd fyd-eang wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Renewable energy hub CGI

Renewable energy hub CGI

Mae cytundebau tir bellach wedi'u cytuno rhwng Cyngor Abertawe, DST Innovations a Batri Ltd.

Bydd y cytundebau - sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio - yn arwain at:

  • Ehangu safle parcio a theithio Fabian Way i greu hwb trafnidiaeth ynni gwyrdd a fydd o bosib yn cynnwys gorsaf gweithgynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth sy'n cael ei bweru gan hydrogen, digonedd o fannau gwefru cerbydau trydan, a bwytai a mannau gweithio hyblyg i ymwelwyr eu mwynhau.
  • Cyfleuster gweithgynhyrchu newydd ar hen safle Morrissey yn SA1 i greu batris uwch-dechnoleg a fyddai'n storio'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei greu gan y prosiect ac ar gyfer dosbarthiad byd-eang.
  • Ehangu ar gynlluniau fferm solar sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar hen safle tirlenwi Tir John i greu un o gyfleusterau cynhyrchu ynni solar mwyaf y DU.

Solar Farm CGI

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi gwneud cais i Lywodraeth y DU am gyllid i archwilio ymhellach y potensial ar gyfer rhwydwaith gwresogi carbon isel ar gyfer yr ardal. Gan ddefnyddio gwres dros ben o'r ganolfan ddata, gallai'r rhwydwaith gwresogi ddarparu gwres ar gyfer dwsinau o adeiladau mawr yn ardaloedd SA1 a chanol y ddinas Abertawe.

Cyhoeddodd y Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y newyddion yng  Nghynhadledd Economi Werdd De-orllewin Cymru 2023, a gynhaliwyd ddydd Mercher.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2023