Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant newydd i helpu i dalu am gostau adeiladu uned ddiwydiannol

Mae cyllid newydd bellach ar gael i helpu datblygwyr gyda chostau adeiladu neu ehangu adeiladau at ddefnydd diwydiannol yn Abertawe a fyddai'n creu cyflogaeth.

Swansea at night

Swansea at night

Bwriedir i'r cyllid dalu am y bwlch ariannu rhwng costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad pan fydd wedi'i orffen.

Mae hyd at £750,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymwys ar gyfradd ymyriad o hyd at 45%.

Mae Cronfa Datblygu Eiddo Abertawe, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cael ei chynnal yn lleol gan Gyngor Abertawe.

Mae'r cyllid hefyd yn talu am geisiadau i adnewyddu adeiladau sy'n wag ar hyn o bryd i'w defnyddio ar gyfer diwydiant.

Mae ffactorau i'w hystyried yn ystod y broses ymgeisio'n cynnwys nifer ac ansawdd y swyddi i'w creu, faint o arwynebedd llawr i'w greu, faint o dir sydd i'w ddatblygu a nifer y busnesau bach neu ganolig y bwriedir  darparu lle ar eu cyfer.

Bydd cyfraniad y datblygiad arfaethedig at ymrwymiadau sero net yn cael ei ystyried hefyd.

Mae ardaloedd a dargedwyd yn cynnwys Parc Felindre, Bro Tawe, Parc Busnes Gorllewin Abertawe ac Ystâd Ddiwydiannol Garngoch.

Caiff safleoedd eraill eu hystyried fesul achos, er nad yw rhai safleoedd yng nghanol y ddinas yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae prinder unedau diwydiannol modern ar hyn o bryd yn yr ardaloedd targed rydym wedi'u nodi y gellid eu defnyddio mewn sectorau fel technegol, prosesu bwyd, arloesedd gwyddonol neu ymchwil a datblygiad.

"Mae'r mathau hyn o gyfleusterau'n bwysig am eu bod yn creu cyflogaeth i bobl leol ac yn darparu'r math o leoedd y bydd eu hangen ar lawer o fusnesau lleol i sefydlu neu ehangu ac aros yn ardal Abertawe.

"Drwy ddarparu cyllid i ymgeiswyr llwyddiannus tuag at gostau adeiladu, ehangu neu adnewyddu, gobeithiwn y bydd hyn yn ysgogiad i ddatblygwyr neu fuddsoddwyr gysylltu â'r cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

"Mae'n un o nifer o gynlluniau sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU sydd â'r nod o gefnogi busnesau o bob maint ar draws Abertawe."

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n gallu dangos gallu i gwblhau'r gwaith ar y safle erbyn 30 Tachwedd 2024. Ni ellir defnyddio cyllid cyhoeddus arall fel arian cyfatebol ar gyfer y grant hwn.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael gwybod mwy, neu e-bostiwch invest@abertawe.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 24 Gorffennaf 2023.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mehefin 2023