Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Prosiect Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS)

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif a Chyngor Abertawe.

Yr ydym yn rhoi cynlluniau ar waith i weddnewid addysg rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn Abertawe ac i wella'u cyfleoedd mewn bywyd yn sylweddol. Mae Cyngor Abertawe wedi cael caniatad i adeiladu uned atgyfeirio disyblion (UAD) newydd Abertawe ar dir y tu ôl i Dŷ cocyd ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â'r contractiwr penodedig i gyflwyno adeilad newydd yr ysgol fel ei fod ar agor i ddisgyblion yng Ngwanwyn 2021. 

Mae'r prosiect yn cynnwys:

Llety newydd ar gyfer yr uned atgyfeirio disgyblion, a fydd yn darparu:

  • lles gwell i ddysgwyr a staff;
  • adeiladau a chyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif;
  • cwricwlwm ehangach a mwy effiethiol;
  • canlyniadau academaidd ac ehangach gwell i ddysgwyr;
  • nifer o'r adeiladau presennol yn cael eu dymchwel.

Diweddariad cynnydd - Tachwedd 2020

  • Gwaith brics y prif adeilad a gwblhawyd ym mis Mehefin 2020.
  • Cwblhawyd gwaith to ym mis Mehefin 2020.
  • Cwblhawyd y waliau ym mis Medi 2020.
  • Cwblhawyd gosodiadau gwasanaeth ym mis Hydref 2020.

Ceir crynodeb o gerrig milltir allweddol y prosiect isod.

Llinell amser y prosiect
Garreg filltirDyddiad
Cyfnod cyn-adeiladu 
Penodi Pennaeth UAD AbertaweRhagfyr 2016
Dechrau ymgynghoriadIonawr 2017
Comisiynu astudiaeth dichonoldeb a dyluniad ar gyfer adeiladauIonawr 2017
Pennaeth UAD Abertawe'n dechrau ei dyletswyddauEbrill 2017
Hysbysebu am swyddi Uwch-dim Arweinyddiaeth UAD AbertaweMai 2017
Hysbyseb swyddi'r Tim CefnogiMai 2017
Penodi ar gyfer swyddi sy'n weddill yn y Tim CefnogiMai 2017
Uwch-dim Arweinyddiaeth ai'r Tim Cefnogi'n dechrau ei dyletswyddauAwst 2017
Dechrau rhoi model gwasanaeth newydd ar waithMedi 2017
Parhau gyda chais cynllunio ar gyfer adeilad newydd yn amodol ar ganlyniad y broses ddylunio / astudiaeth dichonoldebHydref 2017
Cyfnod caffael adeiladuGorffennaf - Medi 2018
Cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru o'r Achos Busnes LlawnHydref 2018
Cyfnod adeiladu 
Dechrau ar waith dymchwel ac adeiladuIonawr - Mawrth 201
Cwblhau'r gwaith i adeiladu'r adeilad newydd (yn amodol ar gyllid a chaniatad cynllunio)Rhagfyr 2020
Y cyfleuster yn agor i ddisyblionIonawr 2021

 

Tim y prosiect Addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol (EOTAS)

Y tim y tu ol i'r prosiect
EnwTeitl y swydd
Amanda TaylorPennaeth UAD Abertawe
Alayne SmithRheolwr Datblygu Achosion Busnes Ysgolion
Stuart PageSwyddog Cefnogi'r Prosiect
Darrel BarnesRheolwr Dylunio Pensaemiol
Antony Davies / Charlotte BalcombePensaer Dylunio - Powell Dobson Architects
Nigel HawkinsRheolwr Prosiectau a Chaffael / Uwchsyrfewr Meintiau
Peter RogersSwyddog Adeiladu, Dylunio a Rhoeli
Jason BowenRheolwr y Prosect, Kier Western Ltd

Manteision cymundedol

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle bo modd, ar gyfer deunyddiau a chynhyrchion. Bydd contractwyr yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.

Ymgysylltu a disgyblion

Bydd ymgysylltu a STEM (gwydoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn rhan annatod o'r prosiect. Bydd y contractwr a'r Cyngor yn cydweithio i gefnogi cyfleoedd dysgu ym mhob rhan o'r prosiect adeiladu.

Prosiectau cymunedol

Fel rhan o'r prosiect bydd disgwyl i'r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal. Darperir rhagor o fanylion am hyn wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Cwestiynau cyffredin am goed ar y safle

Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin yn ymwneud â'r coed ar safle'r prosiect.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mai 2022